Cafodd Porth y Swnt ei agor yng ngwanwyn 2014 yn ganolfan ddehongli ar gyfer pen draw Llŷn. Mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel Henfaes, drws nesaf sydd wedi’i addasu yn fflatiau gwyliau.
Yr Ymddiriedolaeth bellach yw perchennog llawer o’r tiroedd arfordirol yr ardal a bydd hyn yn eu gwarchod rhag unrhyw ddatblygiad fyddai’n anghydnaws â’r fro.
Ym Mhorth y Swnt, trwy ddulliau dehongli arloesol, mae cyflwyniad i nodweddion unigryw ac arbennig pegwn Llŷn. Cewch flas ar hanes, diwylliant a bywyd gwyllt yr ardal cyn mentro ar hyd llwybrau a lonydd Llŷn i ddarganfod y trysorau sydd ynghudd ar gopaon y bryniau (mynyddoedd i bobl Llŷn!), pennau’r gelltydd, cilfachau’r creigiau, yr eglwysi a’r ffynhonnau hynafol.
Oriau agor arfer 10.00-4.00
Ym mhentref Aberdaron trowch i'r dde cyn croesi'r pont yn y pentref. Mae'r ganolfan ar eich dde wrth fynd i mewn i'r maes parcio.
Pwllheli - 15 milltir
Gwasanaeth bws rheolaidd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o Bwllheli i Aberdaron. Safle bws yn ymyl swyddfa'r bost. Bws Arfordirol O Ddrws i Ddrws ar gael Ebrill - Hydref. £1 yn unig. Gweler linc wefan isod
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH172264