Maenordy hyfryd gyda gardd a golygfeydd gwych
Mae’r plac ‘1634 IL’ yn dyddio rhannau hynaf Plas yn Rhiw. Etifeddodd Jane Lewis y tŷ yn 1811 a’i merch, a briododd Capten Lewis Moore Bennet, a ail-luniodd ac ehangu’r plasdy yn 1820 yn blasdy hardd. Wedi ychwanegu asgell ogleddol yng nghanol 19egG. cafodd ei werthu i Thomas Roberts yn 1874. Etifeddodd ei fab ef ac aeth y lle’n anial.
Roedd Syr Clough Williams-Ellis, y pensaer a’r cadwriaethwr yn gyfaill i deulu Keating o Nottingham – y tad yn bensaer ac yn gwybod am y plas. Hysbysodd nhw yn 1938 fod y plasdy a’r tir ar werth. Prynodd y teulu Plas yn Rhiw am £600 – yr ardd yn drwch o ddrain a mieri a’r unig ffordd i mewn i’r tŷ oedd trwy’r ffesnestr.
Y dair chwaer, Eileen, Lorna a Honora a’u mam Constance ddaeth yno i fyw yn 1939. Cafodd y plas ei adnewyddu, yr ardd ryfeddol ei hail-greu a holl amgylchedd y plas ei ddiogelu.
Honora, y chwaer ieuengaf oedd y cymeriad amlycaf. Roedd hi’n arlunydd wedi astudio yn Ysgol Gelf y Slade ac mae llawer o’i gwaith ar furiau’r ystafelloedd
Agorodd y chwiorydd y tŷ i’r cyhoedd a bu ar agor nes i Lorna farw yn 1981. Mae bedd y teulu ym mynwent eglwys Llanfaelrhys.
Roedd y chwiorydd yn ymgyrchwyr brwd dros gadwraeth – yn frwd eu gwrthwynebiad i beilonau a gwifrau trydan ac i godi gorsaf bŵer niwclear yn Edern. Rhoesant y tir cyfagos i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er cof am eu rhieni yn 1946 a Phlas yn Rhiw yr un modd yn 1952.
Mae golygfeydd trawiadol dros yr ardd o Borth Neigwl a mynyddoedd Meirionnydd. Gwnaed ymdrech i gadw cymeriad cartref y Keatings o ganol y ganrif ddiwethaf.
Gwiriwch wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Dilynwch arwyddion Plas yn Rhiw o’r B4413 (Mynytho – Aberdaron) neu o Rhiw, ar y ffordd gul o Aberdaron
Gorsaf Bwllheli: 10 milltir
Pwllheli i Aberdaron (gan basio gorsaf drên Pwllheli), dod i lawr wrth y giat. Bws Arfordirol O Ddrws i Ddrws ar gael Ebrill - Hydref. £1 yn unig. Gweler linc wefan isod.
Ar Lwybr yr Arfordir
Rhai mannau gyda mynediad cadair olwyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH237282 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123