Ysblander gothig Fictoraidd ym Mhen Llŷn
Priododd Elizabeth Caldecott y teulu tirfeddiannol mwyaf ym Mhen Llŷn. Roedd teulu Jones-Parry, oedd wedi’u lleoli ar eu hystâd yng Nghastell Madryn, yn berchen ar y rhan fwyaf o dir ym mhlwyf Llanbedrog, tua saith milltir i ffwrdd. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr ym 1853, ymgollodd y Foneddiges Elizabeth yn y gwaith o adeiladu ‘tŷ agweddi’ anferth, ac felly y ganwyd Plas Glyn y Weddw.
Dewiswyd lleoliad y tŷ yn arbennig gan y Foneddiges Elizabeth. Roedd ei rhesymau yn cynnwys ei leoliad ynghanol coedlan gysgodol, ei olygfeydd godidog o Fae Ceredigion a’r ffaith ei fod mor agos at fedd ei gŵr, sydd ond tafliad carreg i ffwrdd.
Ni symudodd y Foneddiges Elizbaeth i’r tŷ ei hun yn gyfan gwbl oherwydd roedd yn well ganddi deithio ar goets yn ôl a blaen rhwng Madryn. Fodd bynnag, daeth Plas Glyn y Weddw yn gartref i’w chasgliad sylweddol o gelf. Pan brynwyd y plasty gan ŵr busnes o’r enw Solomon Andrews ym 1896, fe’i trosodd yn oriel gelf gyhoeddus gydag ystafelloedd te a gerddi addurniadol.
Caeodd yr oriel ym 1939 a bu merched Byddin y Tir yn byw yn yr eiddo yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym 1979, prynwyd yr adeilad gan yr artist Gwyneth ap Tomos a’i gŵr Dafydd i geisio’i achub rhag adfeiliedigrwydd. Buont yn gweithio am sawl blwyddyn er mwyn gallu ailagor yr oriel i’r cyhoedd.
Heddiw, mae Plas Glyn y Weddw - yr oriel gelf hynaf yng Nghymru - yn dal i ddenu’r rhai sy’n ymddiddori mewn celf i’w harddangosfeydd a’i rhaglen orlawn o ddigwyddiadau celf a threftadaeth. Daeth 130,000 o ymwelwyr i’r safle yn 2012 yn unig. Yn ogystal, mae llwybrau natur drwy’r goedwig 12 acr amgylchynol ac amffitheatr awyr agored ar gael yn y lleoliad arbennig hwn.