Caban Griff
Yn yr adeilad hwn roedd unwaith of yn gweithio a galw mawr am ei waith mewn pentref morwrol i greu angorau, cadwyni ac ati. Y farchnad oedd y llongau, cychod pysgota ac adeiladwyr llongau oedd yn ei fri yn y 18fed a’r 19egG.
Yn yr ‘yard’ ym Mhortinllaen mae’r caban. Byddai’r ‘yard’ yn rhoddi cysgod rhag yr elfennau i’r pentrefwyr ac yno byddent yn cadw eu cychod a’u heiddo. Heddiw mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn adrodd hanes Porthdinllaen ynddo. Cafodd ei agor gan blant yr ysgol yn 2006 a’i enwi i gofio Griff Jones, a weithiodd rhwng 1962 a 1989 fel aelod o Fad Achub Porthdinllaen, a hefyd yn rhan amser fel harbwr feistr. Cynorthwyodd i achub 130 o bobl gyda chriw'r bad achub ac anrhydeddodd y RNLI ef â medal efydd.
Mae amryw o drysorau ym mae a harbwr Porthdinllaen. Yno gallwch weld gwenoliaid y glennydd yn nythu, morwellt ar ddolydd tanfor, y morloi yn hamddena, heb anghofio adfeilion yr hen gaer o oes yr haearn. Yma hefyd mae hen stordai a gwestai wedi eu troi’n dai, gorsaf y bad achub ac wrth gwrs Tafarn Tŷ Coch. Eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Porthdinllaen bellach ers 1994 a’i nod yw gwarchod y lle arbennig hwn i bawb am byth. Heblaw am warchod y bywyd gwyllt a hanes yr ardal mae’r Ymddiriedolaeth yn gwarchod hefyd yr harbwr mewnol ac angorfa’r cychod. Mae ganddynt ddau fwthyn gwyliau yn y pentref i’w gosod i ymwelwyr fel y gallant fwynhau gogoniant y lle.
Bryngaer Arfordirol
Mae hon yn enghraifft o gaer o Oes yr Haearn ar benrhyn arfordirol, yn gorwedd ar y pentir amlycaf ar arfordir gogledd Llŷn ac yn ymestyn i’r môr am dros fil o lathenni. Dim ond dyrnaid o enghreifftiau y gwyddys amdanynt o’r math hwn o strwythur amddiffynnol yng Ngwynedd.
Byddai llawer o’r pentir wedi cael ei amddiffyn yn naturiol gan y môr a’r creigiau sy’n brigo, sydd ar brydiau yn gallu codi i rhwng 50 a 100 troedfedd o uchder.
Mae olion cyfres o gloddiau a ffosydd yn weladwy wrth i chi ddynesu o’r pentir o ochr y tir. Mae gwaith cloddio diweddar gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi ceisio diogelu rhai darnau o’r cloddiau a’r ffosydd rhag effeithiau erydu arfordirol.
Mae llawer o ddifrod wedi’i wneud gan y maes golff modern ac fe dorrir ar eu traws gan y ffordd i lawr i’r dafarn, y Tŷ Coch a’r llwybrausydd yn ymestyn ar hyd y pentir.
O Nefyn cymerwch y B4417 i'r gorllewin a throi i'r dde yn groesfordd Morfa Nefyn. Parcio yn maes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Pwllheli - 7 milltir
Morfa Nefyn Ty’n y Mor - 0.5 milltir. Bws Arfordirol O Ddrws i Ddrws ar gael Ebrill - Hydref. £1 yn unig. Gweler linc wefan isod.
Dilyn llwybrau Sustrans
Cerddwch ar hyd y ffordd i lawr am Ty Coch
Dim mynediad i gerbydau i'r pentref
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 275416 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans :123