Mae Plas Heli yn gwmni di-elw sydd wedi ei sefydlu i redeg yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau a fydd yn agor yn Haf 2015 ym Mhwllheli. Mae’r Hwb ym Mhlas Heli yn gartref i’r Grŵp Awyr Agored, sy’n ymbarel i nifer o glybiau awyr agored Llŷn a Dwyfor gan eu cefnogi i annog a galluogi trigolion lleol i fanteisio a mwynhau adnoddau naturiol yr ardal.
Mae’r Hwb yn le i glybiau gadw a chyfle i rannu offer gyda’i gilydd, clybiau megis Clwb Syrffio Llŷn, Clwb Rhwyfo Pwllheli, Clwb Antur Dwyfor, CHIPAC (Cymdeithas Hwylio Ieuenctid Pwllheli a’r Cylch), Clwb Hwylio Pwllheli a Chadlanciau’r Môr Pwllheli a Phen Llŷn. Pan fydd yr Academi yn agor ei drysau yn Haf 2015 bydd Plas Heli yn noddfa gysurus i groesawu’r clybiau yn ôl o’u hanturiaethau ac yn le iddynt gyfarfod a rhannu syniadau.
Dros y misoedd nesaf, tan fydd yr Academi yn barod i’w hagor yn swyddogol, mae Plas Heli ynghyd â’r clybiau yn trefnu nifer o ddyddiau blasu gwahanol chwaraeon awyr agored a digwyddiadau lleol i annog mwy o bobl i gymryd rhan.
Gydag ystafelloedd cyfarfod, bwyty, bar a neuadd arddangos fawr mi fydd adeilad Plas Heli yn ganolfan groesawgar i drigolion Pen Llŷn, Gwynedd ac ymwelwyr eraill. Bydd y pontwn newydd ar gyfer ymwelwyr a digwyddiadau yn fan i groesawu teithwyr sy’n cyrraedd o’r môr yn ogystal â bod yn ffordd i geufadwyr a rhwyfwyr ddefnyddio’r harbwr mewnol yn rhwydd gyda’r lithfra sydd yn rhan o’r pontwn. Cefnogir y prosiect hwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Pan fydd yr Academi yn agor yn Haf 2015 bydd nifer o gyfleoedd i gynnal gweithgareddau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar un safle ym Mhwllheli sydd â golygfeydd ysblennydd o fae Ceredigion, mynyddoedd Eryri ac arfordir Llŷn. Mi fydd misoedd Gorffennaf ac Awst 2015 yn fwrlwm o bencampwriaethau hwylio gydag ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn profi croeso Cymreig Llŷn.
Ar ochr ddwyreiniol Pwllheli (A497) trowch i gyfeiriad y môr a chroesi’r rheilffordd.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 38353495