Y strwythur carreg hynaf ym Mhrydain?
Mae’r siambr gladdu ddwbl hon, gaiff ei hadnabod fel cromlech borth, yn cael ei hystyried yn un o’r enghreifftiau cynharaf o’i bath yn Ynysoedd Prydain a chredir ei bod yn dyddio i tua 3500 CC. Mae’n un o gyfres o safleoedd o’r fath yn agos i bentref Dyffryn Ardudwy ger Abermaw ac mae’n rhannu nifer o nodweddion cyffredin â safleoedd tebyg yn Iwerddon.
Fe’i gorchuddiwyd yn wreiddiol â charnedd fawr o gerrig, ac mae’r heneb heddiw yn cynnwys dwy siambr agored gyda phyrth yn wynebu’r dwyrain. Wrth gloddio’r safle yn yr 1960au darganfuwyd nifer o ddarnau o grochenwaith o’r cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd oedd wedi cael eu torri’n fwriadol, sy’n awgrymu bod y safle’n cael ei ddefnyddio dros gyfnod hir o amser. Ymysg pethau eraill a ddarganfuwyd yma mae tlws crog o garreg (sydd wedi torri serch hyn) a dau blac sgleiniog wedi’u gwneud o garreg Mynydd Rhiw.
Mae’n bosib bod agosatrwydd Dyffryn Ardudwy i’r môr wedi ei chysylltu gyda cymunedau eraill oedd yn rhannu traddodiadau adaeiladu siambrau gladdu. Mi roeddent yn rhan o ddiwylliant ehangach – mae beddau claddu tebyg wedi eu canfod yn ne Cymru, Iwerddon, gorllewin Ffrainc, Portiwgal a Sbaen.
Mae’r heneb hynod hon wedi’i dynodi’n Heneb Gofrestredig ac mae Cadw’n gofalu amdani.