Siambr gladdu gyda chapfaen nodedig a golygfeydd godidog
Er iddi gael ei niweidio’n arw a gyda chlawdd sych wedi ei adeiladu drwyddi, mae hon yn dal i fod yn heneb nodedig.
Yn dyddio’n ôl i’r 4ydd / 3ydd mileniwm CC mae bron yn sicr yn esiampl o siambr gladdu a adwaenir fel cromlech borth. Dim ond un garreg ochr a’r capfaen enfawr sydd wedi goroesi, ac mae’n ymddangos fod y capfaen wedi ei symud o’i safle gwreiddiol.
Gallwch barhau i weld ychydig o olion y garnedd a fyddai wedi gorchuddio’r siambr, ac sydd i’w gweld ar ochr orllewinol y wal ac ar y clawdd sy’n troi i’r dwyrain a all gynrychioli cau’r cwrt blaen gwreiddiol (tebyg i gladdgell Dyffryn Ardudwy).
Mae golygfeydd ardderchog i’r gorllewin dros Fae Ceredigion tuag at Benrhyn Llŷn o Bron y Foel. Mae gyrru i fyny ar hyd y ffyrdd bach gyda’u cloddiau sych uchel yn antur ynddo’i hun.
Mae’r siambr gladdu hon mewn ardal sy’n gyfoethog mewn henebion cynhanes. Mewn ychydig filltiroedd gellir canfod siambrau claddu Cors y Gedol, Gwern Einion a Dyffryn Ardudwy. I gyd yn agos at yr A496 rhwng Harlech a thref wyliau Abermaw.
Wedi ei leoli oddi ar yr A496 Harlech i Bermo. Mae Bron y Foel ar ffordd fychan am Cwm Nantcol
Harlech - 6 milltir (oddeutu)
Gorsaf bws Dyffryn Ardudwy
Mae'r heneb wedi ei leoli ar hyd ffordd fychan i'r de o Bron y Foel
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn:SH 607246 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124