Wedi’i lleoli ar lethrau dwyreiniol Mynydd Rhiw ym Mhen Llŷn, ymgorfforir dwy siambr gladdu yn y beddrod hudol hwn. Credir i’r beddrod gael ei adeiladu’n wreiddiol oddeutu 3500 CC yn steil cromlech borth oedd yn gyffredin i’r ardal ac fe’i orchuddiwyd yn wreiddiol â charnedd fawr ryw 35 metr (120 troedfedd) o hyd. Mae’r porth hwn, wedi’i gapio gan slaben enfawr, yn dal i oroesi heddiw. Cafodd y beddrod ei addasu rhywbryd yn oddeutu 3000 CC i ymgorffori siambr gladdu hir yn steil ardal Hafren-Cotswold.
Mae’r mwyafrif o’r math hwn o henebion i’w canfod yn yr ardal rhwng Rhydychen a Bryste, er bod dosbarthiadau hefyd yn bodoli yn Wiltshire a de Cymru. Y cwestiwn mawr i archaeolegwyr a haneswyr yw p’un a yw hyn yn cynrychioli dylifiad o bobl newydd i’r rhan hon o Wynedd yntau ai dim ond cyflwyniad o ddulliau newydd o adeiladu beddrodau ydyw? Mae’n awgrymu bod rhwydweithiau cyfathrebu eang wedi bodoli rhwng gwahanol gymunedau Prydain Neolithig.
Ar un adeg, roedd trydydd siambr gladdu yn bodoli ar ran isaf y garnedd, ond nid yw hon yn weladwy erbyn heddiw. Saif y beddrod ar dir tŷ Tan y Muriau, ryw 400 metr i’r dwyrain o eglwys Sant Aelrhiw.
Dilynwch arwyddion am Blas yn Rhiw (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) o'r ffordd Mynytho i Aberdaron B4413
Pwllheli - 11 milltir
Plas yn Rhiw - ¼ milltir, neu Croesffordd Rhiw - ¾ milltir
Llwybr Rhanbarthol 43 yn ymyl
Cerdded i fyny'r bryn o Plas yn Rhiw, troi i'r dde i mewn i Tan y Muriau a gofyn caniatad y fferm.
Siambr Gladdu ar Dir Preifat. Caniatad ei angen gan Tan y Muriau. Llwybr troed yn ymyl, ond yr heneb mewn cae
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 238288 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123