Bedd Neolithig a ‘Brigwn’ Oes Haearn
Dyma feddrod hir a siambrau claddu o’r cyfnod Neolithig, sy’n sefyll ar grib o dir uwchlaw Afon Conwy i’r de o bentref Capel Garmon. Credir iddo gael ei adeiladu mor gynnar â 3500 CC, ac mae’r beddrod yn anghyffredin i’r rhan hon o Gymru oherwydd ei fod yn adlewyrchu strwythurau tebyg a adeiladwyd yn ardal Dyffryn Hafren/Cotswold.
Mae’r safle wedi’i gloddio ar sawl achlysur ac wedi cael ei adfer yn rhannol. Crëwyd y fynedfa bresennol i’r beddrod yn y 19eg ganrif pan gafodd ei ddefnyddio fel stabl. Roedd y porth gwreiddiol ar yr ochr ddeheuol ac yn arwain i mewn i ardal hirsgwar gyda dwy siambr gladdu grwn bob ochr iddi. Byddai meini mawr wedi cael eu defnyddio yn gapan ar y beddrod cyfan. Heddiw, dim ond un o’r meini capan hyn sydd dal yno, slaben anferth o garreg sy’n 14 troedfedd o led. Byddai’r strwythur cyfan hefyd wedi’i orchuddio â thomen o gerrig i greu carnedd. Fe gloddiwyd y safle yn y 1920au a mae tameidiau o esgyrn a crochenwaith ‘Beaker‘ o’r oes neolithig hwyr wedi eu darganfod yma
Yn 1852 darganfyddwyd ‘brigwn’ haearn, sef addurn ar aelwyd, mewn cae ar fferm Carreg Goedog, Capel Garmon. Yn dyddio i’r Oes Haearn, mae pen a gwddf anifail ar y naill ben a'r llall i'r brigwrn ac ymddangos ei fod wedi ei ei gladdu ar bwrpas, efallai fel offrwm i’r duwiau. Gellir ei weld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.