Y Maen Penddu
Saif Maen Penddu mewn lleoliad hynod uwchlaw pentref Henryd, ger Conwy, ble y mae ganddo olygfeydd godidog o Ben y Gogarth ac o’r arfordir sy’n ei amgylchynu. Mae’r maen hir yn oddeutu 2 metr (6 troedfedd) o uchder ac wedi’i leoli heb fod ymhell o gylch meini fychan, Cefn Maen Amor, y credir mai dim ond hynny sydd ar ôl o garnedd angladdol. Mae’n bosib fod cysylltiad rhwng y ddwy heneb ac maent yn dyddio i’r ail fileniwm CC. Mae gwedd y maen yn llyfn ac yn grwn ac yn cyferbynnu’n gryf â’r creigiau onglog gerllaw, sy’n awgrymu ei fod wedi’i ddethol yn arbennig ac wedi’i symud yma o leoliad arall. Mae rhych llydan ar ei ochr ddwyreiniol ac mae’n bosib fod hwn wedi’i greu pan oedd y maen yn cael ei gludo.
Mae’r maen wedi’i gorffori ym mhen ogledd - orllewinol banc cerrig isel sy’n troi’n raddol tua’r nant. Mae’r banc cerrig yn ffurfio rhan o glostir sy’n gysylltiedig â chwt hir canoloesol.
Parcio yn hen eglwys Llangelynin uwchlaw Henryd oodi ar y B5106
Conwy - 4 milltir
Gorsaf bws agosaf yw Bwthyn Hendre, Ffordd Henryd - 2 filltir
Llwybr beicio Conwy i Betws y Coed gerllaw
Dilynwch y llwybr am oddeutu 1/2 milltir i'r gorllewin o hen eglwys Llangelynin.
Llwybr troed ucheldir. Argymellir esgidiau cerdded. Map yn angenrheidiol. Rhaid cadw cwn ar dennyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Maen Penddu: SH739735, Cefn Maen Amor: SH 738735 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115