Dysgwch y stori y tu ôl i’r deyrnged hoffus hon i ffrind pennaf dyn
Pwy allai beidio â chael ei hudo gan hanes Gelert, y ci ffyddlon, a laddwyd ar gam gan ei feistr Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd? Yn ôl y stori, dychwelodd Llywelyn adref un diwrnod ar ôl bod allan yn hela a gwelodd nad oedd ei fab bychan yn ei grud. Yno, yn yr ystafell yr oedd Gelert, ei fleiddgi, a’i wyneb yn waed drosto. Gan gredu bod Gelert wedi lladd ei fab, estynnodd Llywelyn am ei gleddyf a lladd y ci. Ar ôl iddo ladd Gelert, mae’n clywed y baban yn crio, yn gorwedd yn ddianaf o dan y crud – gyda chorff blaidd enfawr yn gorwedd yn ei ymyl. Wedi’i lethu gan edifeirwch, claddodd Llywelyn y ci a dywedir na wenodd fyth wedi’r diwrnod hwnnw.
Mae’r stori’n gyfarwydd, ac mae fersiynau gwahanol ohoni’n bodoli ledled y byd. Yn achos Gelert, cafodd y stori hon ei chreu yn y 1790au gan David Pritchard, perchennog Gwesty’r Afr, Beddgelert, fel ffordd o ddenu twristiaid i’r ardal. Felly, pwy oedd y Gelert go iawn?
Efallai mai meudwy o’r 7fed ganrif a oedd yn byw mewn ogof ger ffynnon sanctaidd oedd Gelert. Adwaenir y ffynnon heddiw fel Ffynnon Sanctaidd Sant Celer (ger Llandysul), sy’n ffordd arall o sillafu’r enw Gelert. Dywedir bod pererinion yn heidio yma yn y canol oesoedd i gael eu hiachau gan Gelert a’r dyfroedd sanctaidd. Credir bod Gelert wedi’i ferthyru, er ni chredir bod y mwnd a wyddys fel Bedd Gelert (a ddywedir mai bedd Gelert ydyw), yn gysylltiedig â’r meudwy. Ystyrir yn gyffredinol mai nodwedd naturiol, yn hytrach na rhywbeth a grëwyd, ydyw hwn.
Mynediad am Ddim
Mae'r pentref ar gyffordd yr A498 ac A4085
Bangor - 22 milltir, Porthmadog - 8 milltir
Gorsaf bws Beddgelert
Mae llwybr beic o Rhyd Ddu i Feddgelert
Wedi ei arwyddo o ganol y pentref - taith 1 milltir
Llwybr yn addas i gadeiriau olwyn a pramiau. Rhaid cadw cwn ar dennyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH590477 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115