Cerdded neu gymryd y trên – mae gennych y dewis
Mae copa gwych yr Wyddfa y copa uchaf yng Nghymru a Lloegr ac mae wastad wedi ysbrydoli pob un sydd wedi mentro i fyny’r 1085m i’r copa. Mae rhai llwybrau i’r brig yn gymharol raddol tra bod eraill yn her llawer mwy difrifol. Bu Syr Edmund Hillary a thîm Alldeithiol Everest 1953 yn hyfforddi yma cyn dringo’n llwyddiannus i’r copa uchaf yn y byd.
Ysbrydolodd y mynydd lawer o arlunwyr dros y blynyddoedd. Mae ei dirlun gwyllt, garw yn crynhoi’n union y prydferthwch diguro a garai mudiad Rhamantaidd cynnar y 19fed ganrif. Defnyddiodd J.M.W. Turner, arweinydd y mudiad hwn, yr Wyddfa a’r ardal o’i chwmpas yn wrthrych mewn llawer o’i waith. Yn ogystal, mae’r Wyddfa yn gynefin i lawer o blanhigion prin megis Lili’r Wyddfa, Lloydia serotina, a enwyd er anrhydedd i’r un â’i darganfu, Edward Llwyd, ac nid yw’r planhigyn hwn i’w gael yn unman arall ym Mhrydain. Yn wir, y botanegwr, Thomas Johns a ysgrifennai yn 1639 a roddodd i ni'r hanes cyntaf a gofnodwyd o’r daith i gopa’r Wyddfa, er yn ddiau bu llawer o deithiau i’r copa nas cafwyd eu cofnodi cyn hyn.
Yn 1896, daeth rheilffordd lein gul rac a phiniwn o Lanberis i’r copa – yr unig un o’i math ym Mhrydain – ac yn sgil hyn daeth â’r mynydd yn un o’r cyrchfannau i dwristiaid oedd ‘yn hanfodol i’w gweld’. Erys hyd heddiw yn un o’r lleoliadau twristiaid mwyaf poblogaidd yn y wlad.
Mynediad am Ddim
Gorsaf Rheilffordd yr Wyddfa ar yr A4086 Llanberis
Gorsaf agosaf Bangor - 8 milltir
Amryw o orsafoedd yn Llanberis.
Mae llwybr beiciau yn ymyl yr hen rheilffordd i Dde Orllewin Llyn Padarn.
Caniatau 7 awr i fynd i fyny ac i lawr
Cerdded - gwiriwch y rhagolygon tywydd a gwybodaeth diogelwch -caniatau 7 awr. Gwisgwch ddillad ac eisgidiau addas a mae bwyd a diod yn angenrheidiol.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn Y Gopa: SH 609543 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115