Dewch i wlad sy’n llawn hud a lledrith
Mae Dyffryn Nantlle yn lle ble mae’r gorffennol hanesyddol pell a chwedlau Celtaidd a llên gwerin yn dod ynghyd. Dywedir bod Nantlle, a sillafwyd yn wreiddiol fel Nantlleu, wedi’i enwi ar ôl Lleu Llaw Gyffes, ffigwr amlwg o bedwaredd cainc y Mabinogi. Credir bod y rhamant hon wedi’i hysgrifennu yn yr 11eg neu’r 12fed ganrif, ond credir bod yr hanesion am arwyr a Duwdodau Celtaidd chwedlonol yn dyddio yn ôl i oes llawer cynharach, i galon mytholeg hynafol Ynysoedd Prydain.
Yn y stori, mae Math fab Mathonwy, arglwydd Gwynedd, yn cael ei dwyllo gan Gwydion y Dewin i gael dau fab gydag Arianrhod, chwaer Gwydion. Enwir un o’r ddau fab yn Lleu Llaw Gyffes. Mae Arianrhod yn tyngu llw na fydd Lleu fyth yn priodi dynes o unrhyw hil sy’n byw ar wyneb y Ddaear ac felly mae Gwydion a Math yn creu gwraig brydferth iddo o flodau derw, banadl ac erwain a’i henwi’n Blodeuwedd. Fodd bynnag, mae Blodeuwedd yn syrthio mewn cariad â heliwr o’r enw Gronw Pebr ac mae’r ddau’n mynd ati i gynllwynio i ladd Lleu. Er i Lleu gael ei anafu, mae’n trawsnewid ei hun yn eryr ac yn dianc.
Mae llawer o’r stori yn digwydd o gwmpas Dyffryn Nantlle. Cred rhai mai Caer Engan, ger pentref Llanllyfni, yw safle Caer Dathyl, llys Math fab Mathonwy. Hefyd, dyweder mai Baladeulyn, ar lannau Llyn Nantlle Uchaf yw’r lle ‘rwng deu lenn’, ble y daeth Gwydion o hyd i Lleu Llaw Gyffes wedi trawsnewid yn eryr.
B4418 Penygroes i Rhyd Du
Bangor - 17 milltir, Porthmadog - 15 milltir
Gorsaf bws Talysarn
Llwybr beicio Penygroes i Dalysarn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn (Llyn Nantlle): SH 505535 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115