Y Beibl Cymraeg
Y lleoliad godidog hwn ar ymylon Eryri yw man geni Yr Esgob William Morgan (c. 1545-1604), y gŵr a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg. Bu i eraill o’i flaen gyfieithu sawl rhan, ond ni chynhyrchwyd y rhifyn cyflawn cyntaf hyd 1588. Dyma oedd y sail ar gyfer rhifyn wedi’i addasu a gyhoeddwyd ym 1620 a hwn wedyn oedd y fersiwn Gymraeg safonol a dderbyniwyd o’r efengylau.
Nid oes llawer o’r nodweddion gwreiddiol ar ôl yn Nhŷ Mawr ond mae’r tŷ wedi cael ei adfer yn ofalus nes ei fod yn edrych fel y buasai wedi ymddangos yn y 16eg ganrif. Cedwir copi o rifyn gwreiddiol 1588 Morgan yma a chredir mai hwn yw’r llyfr pwysicaf i’w gyhoeddi yn y Gymraeg erioed. Apeliai’r gwaith at y dyhead dyneiddiol i sicrhau bod y Beibl ar gael i bawb ac roedd yn hanfodol o ran llwyddiant y Diwygiad yng Nghymru. Bu iddo sicrhau y byddai’r Gymraeg yn goroesi fel iaith fyw ac fe ddarparodd dempled ar gyfer fersiwn safonol o Gymraeg ysgrifenedig.
Mae llawer o ymwelwyr o bedwar ban byd wedi cael eu hysbrydoli gan Dŷ Mawr a stori William Morgan. Heddiw, mae’r ffermdy yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae’n cynnwys casgliad o Feiblau a anfonwyd yno o fannau ledled y byd. Maent wedi’u hysgrifennu mewn sawl iaith wahanol (oddeutu 200 ar hyn o bryd) – mewn rhai achosion, dyma’r tro cyntaf i’r ieithoedd hyn gael eu hysgrifennu erioed. Dros 500 mlynedd ers ei gamp fawr, mae etifeddiaeth William Morgan yn parhau i ysbrydoli.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Gwiriwch ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
O'r A5 6 milltir i dde o Fetws y Coed, cymerwch y B4406 i Benmachno, yna cymerwch ffordd y goedwig
Pont-y-Pant - 2½ milltir
Gorsaf bws yn Penmachno - 2 filltir
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 770524 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115