Gwerthfawrogi trysorau pensaernïol sy’n gysylltiedig â’r pensaer o fri a’r dylunydd, Clough Williams-Ellis.
Gan gychwyn yn Llanystumdwy, bydd mynd am dro o gwmpas y pentref yn datgelu sawl enghraifft ddifyr o waith Williams-Ellis. Mae’r tir caeedig a’r giât haearn o amgylch bedd y Prif Weinidog David Lloyd George yn fan cychwyn da (cartref plentyndod Lloyd George oedd y pentref ac yno y bu farw hefyd). I Gapel Moreia nesaf, sy’n dyddio nôl yn wreiddiol i 1866, a gafodd ei ailadeiladu yn ôl dylanwad dyluniad Celf a Chrefft Williams-Ellis ym 1936 yn dilyn tân.
Cyn i chi adael Llanystumdwy, ewch i weld giatiau Amgueddfa Lloyd George a ffenestr y llyfrgell yn Nhŷ Newydd (cartref olaf Lloyd George), cafodd y ddau beth eu dylunio gan Williams-Ellis. Ewch i'w gwefan i gael golwg ar eu digwyddiadau a’u rhaglen ddiweddaraf. Os oes gennych amser, gallwch gael lluniaeth yng nghaffi Morannedd petaech yn stopio yng Nghricieth, perl Art Deco a ddyluniwyd gan Williams-Ellis ym 1948 ac sydd wedi’i leoli ar y promenâd.
Pentref Llanfrothen yw’r lleoliad ar gyfer tŷ gwledig Williams-Ellis, Plas Brondanw, a gafodd ei adfer a’i addasu ganddo ar ôl iddo ei etifeddu gan ei dad. Ystyrir y gerddi yma fel un o greadigaethau gorau’r pensaer amryddawn. Drwy gydol ei oes hir, parhaodd i ymestyn y rhodfeydd, gyda’u golygfeydd godidog o’r mynyddoedd.
Os ydych eisiau teithio ymhellach, gyrrwch ar hyd yr arfordir i Rhiw ac ewch i ymweld ag eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Plas yn Rhiw. Ar un adeg, bu’n eiddo i’r tair chwaer Keating a oedd yn gyfeillion i Williams-Ellis. Adferwyd y tŷ hwn o’r ail ganrif ar bymtheg ganddo ar gyfer y Keatings ym 1938.
Ni fyddai unrhyw daith am Clough Williams-Ellis yn gyflawn heb ymweld â’i gampwaith enwocaf – Portmeirion. Creodd ei bentref delfrydol i fod yn debyg i’r trefi Eidalaidd yr edmygai gymaint, gan agor i ymwelwyr ym 1926. Gyda gerddi trawiadol, gwestai a chaffis, mae Portmeirion yn fyd hudol unigryw.
Mae Amgueddfa Lloyd George, Capel Moriah a Ty Newydd yn Llanystumdwy oddi ar yr A497 rhwng Cricieth a Pwllheli. Morannedd Café ar y ffrynt yn Cricieth. Plas Brondanw yn Llanfrothen oddi ar yr A4085. Portmeirion oddi ar yr A497 i'r de o Borthmadog. Plas yn Rhiw wedi ei arwyddo oddi ar y B4413 i Aberdaron.
Capel Moriah i'w gweld o'r tu allan - ddim ar agor fel arfer. Ty Newydd yn cael ei redeg gan Lenyddiaeth Cymru.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: Amgueddfa Lloyd George SH 476385 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123, 124