Y pentref Eidalaidd yng Ngwynedd
Mae pentref dychymyg Portmeirion wedi rhoi boddhad i ymwelwyr ers i’r gwesty cyntaf agor yn 1926 ac mae’n enwog fel lleoliad y gyfres deledu cwlt o’r 60au, ‘The Prisoner’. Wedi’i ysbrydoli gan leoliad y pentir lle y saif, sy’n debyg i arfordir Môr y Canoldir, roedd yn greadigaeth ecsentrig y pensaer Cymreig, Clough Williams-Ellis. Fe’i dyluniwyd yn fwriadol i fod yn debyg i’r trefi bach Eidalaidd yr edmygai Williams-Ellis gymaint.
Yn wreiddiol, roedd y pentir yn safle i Gastell Deudraeth, y soniwyd amdano gan Gerallt Gymro yn 1188. Roedd yn dir caeedig â muriau cerrig o amgylch tŵr carreg 30m o uchder. Dywedir mai dau dywysog a fu’n gyfrifol am greu’r castell, Gruffydd a Maredudd; roedd y ddau’n feibion i Cynan a deyrnasai dros ddarn helaeth o ogledd-orllewin Cymru yn y ddeuddegfed ganrif. Yn ôl y sôn roedd olion y castell gwreiddiol i’w gweld mor hwyr â 1869, pan gawsant eu dymchwel yn llwyr gan Syr William Fothergill Cook (dyfeisiwr y telegraff trydan) er mwyn rhwystro ymwelwyr rhag dod i’r safle. Yn ôl y sôn, defnyddiwyd cerrig y tŵr i adeiladu’r clochdy ym Mhortmeirion yn 1925. Ni wŷr neb union leoliad gwreiddiol safle Castell Deudraeth ond mae’n destun llawer trafodaeth. Heddiw, gall ymwelwyr aros yng ngwesty Castell Deudraeth - plasty o oes Fictoria a adeiladwyd ar ffurf castell.
Pan brynodd Clough Williams-Ellis y safle yn 1925 a chychwyn ar y prosiect i droi ei freuddwyd o bentref delfrydol yn realiti, roedd y canlyniad yn odidog, gyda gerddi ysblennydd, dau westy a sawl siop a bwytai yn rhoi boddhad i lawer o ymwelwyr. Bob mis Medi cynhelir gŵyl gerdd a chelf annibynnol yma, sef Gŵyl Rhif 6, o fewn cyffiniau hudolus Portmeirion.
Pob dydd o'r flwyddyn 9.30am i 7.30pm.
1 ½ milltir i orllewin Penrhyndeudraeth ar yr A487 wedi ei arwyddo yn Minffordd
Porthmadog - 1 milltir, Blaenau Ffestiniog - 8 milltir
Gorsaf bws yn Minffordd
Ar lwybr beic NCN 8
Dim cwn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 590372 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124