Crëwr pentref Eidalaidd Portmeirion
Ganwyd Clough Williams-Ellis yn Swydd Northampton a cafodd ei addysg yn Ysgol Oundle. Mynychodd Coleg y Drindod, Caergrawnt, gan astudio y gwyddorau naturiol, ond ni raddio yn y pwnc gan benderfynu bod yn bensaer yn lle hynny.
Etifeddodd Plas Brondanw, Sir Feirionnydd yn 1908. Fel pensaer, bu’n gyfrifol am brosiectau adeiladu cyn belled â Lloegr, Iwerddon a hyd yn oed Shanghai, ond am Portmeirion mae Clough yn fwyaf adnabyddus.
Ymgymerodd â’i brosiect adeiladu ar ei benrhyn preifat ei hun ger Porthmadog rhwng 1925 a 1976. Ymyrrodd yr Ail Ryfel Byd â’r gwaith adeiladu a phrinder cyflenwadau yn y blynyddoedd yn dilyn y rhyfel.
Gweledigaeth Clough oedd dylai wella’r safle naturiol hardd hwn yn hytrach na’i ddifwyno, ac y gallai dull pensaernïol da fod yn fasnach dda.
Fel ymgyrchydd diflino dros yr amgylchedd roedd yn aelod sylfaenol o’r Council for the Protection of Rural England yn 1926 a’r Ymgyrch i Amddiffyn Cymru Wledig yn 1928 (bu’n llywydd am 20 mlynedd). Roedd yn hyrwyddwr cadwraeth wledig, cynllunio amwynderau, dylunio diwydiannol a phensaernïaeth liwgar. Roedd Clough yn gyfrifol am greu ffin Parc Cenedlaethol Eryri a gyflwynodd i’r Brenin Siôr V1 yn 1951.
Un o ferched Clough, Susan, sefydlodd grochenwaith enwog Portmeirion gyda’u dyluniadau botanegol trawiadol.