Chwedlau am gewri o’r gorffennol cynhanesyddol
Credir bod y tirnod lleol adnabyddus hwn yn dyddio i’r Oes Efydd yn yr ail fileniwm CC. Yn slabyn pigfain, mae’n mesur dros dri metr (10 troedfedd) o uchder. Ychydig a wyddys am y gwaith o’i hadeiladu, ond defnyddiwyd yr enw ei hun, sy’n cyfieithu fel ‘The Stone of Idris’ yn y Saesneg, cyn y 17eg ganrif pan gafodd ei gofnodi gyntaf. Yn ôl y sôn, eisteddodd Idris y cawr yn ei gadair ar gopa Cader Idris gerllaw a chicio carreg a laniodd mewn cae ger pentref Trawsfynydd. Mae’r garreg yn gorwedd ger ffordd hynafol oedd yn cysylltu caerau Rhufeinig Tomen y Mur i’r gogledd o Drawsfynydd gyda Chaer Gai, ger Llyn Tegid.
Daethpwyd o hyd i odyn teils Rhufeinig gerllaw. Fodd bynnag, defnyddiwyd llawer o’r tirlun fel tir hyfforddi milwrol hyd y 1960au, ac efallai bod hyn wedi peryglu safleoedd archaeologeol eraill a allai fod wedi bodoli wrth ymyl Llech Idris.
Er hynny, mae’n werth ymweld â’r heneb nodedig yma, yn enwedig i rywun sydd â diddordeb yng ngorffennol cynhanesyddol Ynysoedd Prydain. Saif y garreg ar dir pori preifat, ond mae’n weladwy o’r ffordd islaw.
O Trawsfynydd ewch i'r de ar yr A470, gan gymryd yr ail dro i'r chwith wedi ei arwyddo am Abergeirw. Ymhen oddeutu 2 filltir trowch i'r chwith yn y fforch ac ymhen 500 medr cymryd y fforch i'r dde. Mae'r garreg i'w gweld o'r lôn yn y cae ar y dde
Porthmadog - 15 milltir
Gorsaf bws Bronaber - 1 1/2 milltir
Beicio ar y lôn
Carreg 350 medr i lawr trac
Mae angen esgidiau cerdded. Gall y llwybr fod yn wlyb a mwdlyd. Rhaid cadw cwn ar dennyn. Map ei angen. Mae Bedd Porius yn ymyl ar yr ochr gogleddol o'r ffordd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Llech Idris: SH 731311, Bedd Porius: SH733315 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124