Tir claddu o Oes yr Efydd yng nghanol hyfrydwch Eryri
Pan oedd y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen yng nghronfa ddŵr Llyn Brenig, cynhaliwyd arolwg archeolegol manwl o’r ardal a chanfuwyd tystiolaeth o weithgarwch dynol am gyfnod o nifer o filoedd o flynyddoedd. Rhwng 6500 a 3000 CC fe adeiladodd helwyr Mesolithig a Neolithig aneddiadau tymhorol ar gyfer hela’n lleol. Rhwng 2000 a 1500 CC ymddengys bod yr ardal wedi cael ei datblygu yn safle defodol enfawr ag iddo nifer o safleoedd claddu. Mae nifer o’r henebion hyn wedi cael eu hailadeiladu ac mae Llwybr Archeolegol Llyn Brenig wedi’i sefydlu er mwyn tywys ymwelwyr ar daith i weld Gwynedd yng nghyfnod Oes yr Efydd.
Mae’r llwybr yn ffurfio cylchdaith o’r maes parcio ar ochr ogledd-ddwyreiniol Llyn Brenig ac mae’n oddeutu 2.5 milltir (4km) o hyd. O fewn y pellter gweddol fyr hwn ceir nifer o garneddi claddu o Oes yr Efydd, oddeutu wyth neu naw ohonynt i gyd. Ceir nifer o anheddau canoloesol yn yr ardal hefyd, a chredir mai hafotai yw’r rhain ble’r arfera’r bugeiliaid roi eu hanifeiliaid i bori yn ystod misoedd yr haf. Ewch i chwilio am Maen Cleddau, carreg fawr sydd â rhan ohoni wedi’i sleisio i ffwrdd – dyweder mai cawr wnaeth hyn gyda’i gleddyf.
Yn ddiweddar, mae’r safle wedi cael ei ddatblygu’n helaeth fel atyniad ymwelwyr. Yn y ganolfan ymwelwyr ei hun, ceir arddangosfa sy’n manylu ar ddarganfyddiadau archeolegol yr ardal ac mae taith ac arweiniad sain ar gael (gan gynnwys un i blant). Gallwch lawrlwytho’r arweiniad sain ymlaen llaw isod.
O Ddinbych cymerwch y B4501 i gyfeiriad Cerrigydrudion. Dilynwch arwyddion am Llwybr Archaeoleg oddeutu 7 milltir o Ddinbych
Betws y Coed - oddeutu 17 milltir
Llwybr Llyn Brenig ar y B4501
Taith gerdded cylchol cymedrol oddeutu 2 1/2 milltir o'r maes parcio. Argymellir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 983574 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124