Mae’r cylch meini hyfryd a hynod hwn, sy’n cael ei ystyried ymysg un o’r enghreifftiau gorau ym Mhrydain, yn llunio rhan o gyfres o henebion hynafol ar weundir uwchben tref Penmaenmawr. Mae’r cylch yn cynnwys 30 o feini (gydag 11 ohonynt dal yn sefyll), wedi’u gosod ar ymyl mewnol arglawdd isel sy’n mesur oddeutu 35 metr mewn diamedr.
Cyfeirir atynt yn lleol fel y Meini Hirion, ac fe gloddiwyd y safle yn y 1950au. Datgelodd y gwaith faen capan cistfaen (siambr gladdu) goeth, gyda cherrig, yn cynnwys cwartsiau, wedi’u gwasgaru o’i gwmpas. Roedd llestr bwyd y tu mewn i’r gistfaen ac yn y llestr roedd esgyrn amlosgedig plentyn rhwng 10 a 12 mlwydd oed. Erbyn hyn, mae’r llestr i’w weld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.
Daethpwyd o hyd i ail amlosgiad mewn pydew arall. Yma, gwelwyd llestr bwyd plaen gydag esgyrn amlosgedig plentyn rhwng 11 a 13 mlwydd oed, ynghyd â chyllell rhybedog efydd fechan. Gallai’r ffaith fod gweddillion plant yn y cylchoedd hyn gyfeirio at y gred ysbrydol mewn ieuenctid ac adfywiad i’r cymunedau oedd yn eu defnyddio. Byddai’r henebion hyn wedi bod yn fannau cymdeithasol o bwys, ble y byddai pobl yn ymgasglu ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn.
Awgrymwyd dyddiad o 1450-1400 CC ar gyfer cyfnod adeiladu’r Meini Hirion a byddai hyn yn eu gosod yn yr Oes Efydd, er y cydnabuwyd ar y pryd y gallai fod yn llawer cynharach na hyn, gan ddyddio yn ôl i 3000 CC. Nid yw’r cylch yn gylch perffaith, gan ei fod yn eithaf gwastad ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol ble mae llwybr trac yn croesi ar ei draws. Cynigwyd bod y cylch wedi osgoi’r llwybr hwn yn fwriadol, a byddai hyn yn awgrymu fod y trac wedi bod yno cyn dyfodiad y cylch. Naill ffordd neu’r llall, credir bod y Meini Hirion wedi rhagflaenu’r Derwyddon o sawl canrif, a dim ond yn y 19eg ganrif y cafodd y strwythur ei enw Saesneg Druid’s Circle.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
O Benmaenmawr dilynwch y ffordd i gyfeiriad Dwygyfylchi. Dilynwch arwyddbost am Druid’s Circle / Graig Lwyd Road. Parcio yn ymyl pyst giat Jubilee Walk
Penmaenmawr - 1 milltir
Gorsaf bws yn y rheilffordd
Taith 40 munud
Taith gerdded cymedrol ar hyd y llwybr troed. Argymell esgidiau cerdded. Cadw cwn ar dennyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 722746 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115