Etifeddiaeth nodedig Rhyddfrydiaeth a Methodistiaeth
Mae’r Bala yn dref farchnad ganol oesol a sefydlwyd gan Siarter Brenhinol yn gynnar yn y 14eg ganrif gan Roger de Mortimer o Gastell y Waun. Mae’n nodedig, ymysg pethau eraill, am fod yn un o ganolfannau Methodistiaeth Cymru, diolch yn bennaf i’r Parch Thomas Charles (1755 -1814) a ddysgodd blant Y Bala. Cysegrwyd capel coffa, yn dyddio yn ôl i 1867 ac sydd bellach yn adeilad rhestredig Gradd II, i Thomas Charles. Mae delw o’r offeiriad, a godwyd ym 1875, yn sefyll ger y fynedfa. Wedi’i ysbrydoli gan stori Mari Jones, a gerddodd yn droednoeth i’r Bala ac yn ôl adref (siwrne 50 milltir), i brynu Beibl ganddo ym 1800, sefydlodd Charles y British and Foreign Bible Society. Ei nod oedd cynhyrchu Beiblau fforddiadwy i bawb.
Ganed gŵr enwog arall, sef Syr Owen Morgan Edwards (1858 – 1920), ym mhentref cyfagos Llanuwchllyn. Roedd yn enwog fel hanesydd, awdur, AS Rhyddfrydol a hyrwyddwr y diwylliant Cymreig. Yn ei hunangofiant, Clych Adgof, mae Syr Owen yn cofio cael ei gosbi am siarad Cymraeg pan oedd yn ddisgybl yn yr ysgol. Gwnaeth y profiad iddo feithrin ysfa gref i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Sefydlodd nifer o gyfnodolion, yn cynnwys Cymru ym 1891, ac ym 1907, fe’i penodwyd fel Prif Arolygydd cyntaf Ysgolion Cymru - swydd a ddefnyddiodd i annog defnyddio’r Gymraeg a dysgu am y diwylliant Cymreig mewn ysgolion. Saif delw o Syr Owen yn Llanuwchllyn.
Parhau â gwaith ei dad wnaeth Syr Ifan ab Owen Edwards drwy sefydlu Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid Cymru, ym 1922.
Mae Bala a Llanuwchllyn oddi ar yr A494 gyferbyn a'u gilydd i Lyn Tegid
Abermaw - 22 milltir
Safle bws yn y Bala a Llanuwchllyn
Llwybr beicio Llyn Tegid
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: Bala SH 927360, Llanuwchlyn SH 879299 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 125