Mynd am dro drwy dirwedd Trawsfynydd
Roedd Sant John Roberts yn offeiriad Catholig a ddienyddwyd am fradwriaeth yn Tyburn, Middlesex ar 10 Rhagfyr 1610. Daeth Roberts, a gai ei ystyried yn ferthyr gan yr Eglwys Gatholig, yn wrthwynebydd cadarn o’r Diwygiad wedi iddo droi at Gatholigiaeth tra’n ymweld â Chadeirlan Notre Dame ym Mharis. Cafodd ei ddedfrydu i gael ei grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru ond bu iddo ddangos y fath dosturi at y tlawd yn Llundain nes i’r dorf yn ei ddienyddiad droi ar y dienyddwyr a mynnu y dylai Roberts gael ei grogi hyd nes yr oedd yn farw, yn hytrach na chael ei ddiberfeddu’n fyw fel yr arferid ei wneud. Cedwir crair o’i fys yn Eglwys Gellilydan, nepell o Drawsfynydd.
Mae Llwybr Sant John Roberts yn coffau bywyd a chyflawniadau y brodor hwn o Drawsfynydd. Mae’r llwybr, sydd wedi’i leoli rhwng mynyddoedd y Rhinogydd a’r Moelwynion yn crwydro heibio un o’r tirweddau Oes Efydd mwyaf helaeth yn y wlad. Mae’r llwybr yn cychwyn yn eglwys hynafol Sant Madryn, Trawsfynydd, ble y credir i Sant John Roberts gael ei fedyddio, ac yna mae’n ymlwybro tuag at Abaty Cymer ger Dolgellau ble y credir i Roberts dderbyn ei addysg gynnar. Bellach, mae Rhiw Goch, y man ble cafodd ei eni, ger Trawsfynydd, yn dafarn a bwyty. Mae arddangosfa yng Nghanolfan Dreftadaeth Llys Ednowain, Trawsfynydd, yn dathlu bywyd y merthyr Cymraeg.
Taith yn mynd o Trawsfynydd i Abaty Cymer Abbey i ogledd Dolgellau ar yr A470
Abermaw - 19 milltir, Blaenau Ffestiniog - 10 milltir
Gorsaf Bws Trawsfynydd
Yn agos i lwybr beicio 8 yr NCN
Llwybr Sistersaidd gyda cynlluniau llwybr
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn -(Cychwyn y llwybr yn Eglwys Sant Madryn) : SH 706356, Abaty Cymer: SH 721195 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124