Tirlun Cysegredig
Cromlech borth yw siambr gladdu Hendre Waelod a adeiladwyd tua 3500-3000 CC ar lethrau dwyreiniol Dyffryn Conwy ger Llansanffraid Glan Conwy. Fel gyda henebion tebyg, mae ei tharddiad yn ddirgelwch. Awgryma nifer yr hebebion cyffelyb yn yr ardal, sydd i gyd wedi eu hadeiladu tua’r un amser, fod pob bedd unigol yn cael ei ystyried yn un darlun cyfan wedi eu gosod mewn tirlun oedd ei hun yn cael ei ystyried yn sanctaidd. Awgrymwyd fod adeiladwaith yr henebion hyn yn arwydd fod credoau ysbrydol newydd wedi eu cyflwyno – efallai yn tarddu o Iwerddon, cartref y siambrau claddu Neolithig mawr cynharaf.
Yn Hendre Waelod ceir cerrig porth uchel traddodiadol sy’n unigryw i Ddyffryn Conwy. Yn wreiddiol fe fyddent wedi sefyll tua 3 metr (10 troedfedd) o uchder ond mae pridd o’r llethr uwchben wedi syrthio arnynt dros y blynyddoedd a mynd o amgylch gwaelod y cerrig porth. Mae’r siambr ei hun yn enfawr ond yn isel iawn gyda chapfaen anferth sydd wedi llithro ychydig yn y pen gogleddol. Mae llechfaen isel yn rhwystro’r fynedfa o ochr y porth ond gellir cael mynediad i’r siambr o’r pen gyferbyn. Credir bod llinell o gerrig yn amlinellu’r garnedd hir a fyddai wedi gorchuddio’r bedd yn wreiddiol.
O Llansanffraid Glan Conwy cmerwch yr A470 i'r de a troi i'r dde wrth y groesffordd ar dop yr allt (cyn y tro am Bodnant). Dilyn y ffordd i lawr allt am oddeutu 1/2 milltir tuag at Afon Conwy. Parcio ger yr arwyddbost.
Conwy - oddeutu 3 milltir Cyffordd Llandudno - oddeutu 2 filltir Glan Conwy - 1/2 milltir
Safle bws agosaf yw Llansanffraid Glan Conwy - milltir
Llwybr beicio Conwy i Betws y Coed gerllaw
Dilyn llwybrau troed. Argymhellir esgidiau cerdded. Mapiau yn angenrheidiol. Rhaid cadw cwn ar dennyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 793747 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans : OS 115