Bedd hynafol mewn tirwedd hynafol
Siambr gladdu Neolithig yw Maen y Bardd (‘The Bard’s Stone’) y credir iddi gael ei hadeiladu oddeutu 3500 CC. Saif mewn safle anghysbell uwchlaw pentref Rowen, lleoliad sy’n mwynhau golygfeydd godidog dros Ddyffryn Conwy. Credir yn helaeth bod y siambr yn wreiddiol wedi’i gorchuddio â charnedd o gerrig, ond nid oes tystiolaeth o hyn ar gael heddiw.
Mae’r strwythur cyfredol yn cynnwys slab mawr a gwastad a gaiff ei gynnal gan bedwar maen unionsyth yn mesur oddeutu 1.2 medr (4 troedfedd) o uchder. Mae’r benllech fawr yn dod allan o’r meini unionsyth i ffurfio mynediad i’r porth; cyfeirir yn aml at feddau o’r math hwn fel cromlechi porth.
Roedd y lleoliad yn amlwg yn arwyddocaol ac wedi’i ddewis yn ofalus. Gellir canfod sawl safle cynhanesyddol arall gerllaw, ac arferai’r ardal gyfan fod yn gartref i gymuned lewyrchus o helwyr Neolithig, a ffermwyr yn ddiweddarach oedd yn dotio’r tirlun â charneddau a meini hir. O’r safleoedd hyn, mae’n bosib mai Maen y Bardd yw’r un sydd wedi goroesi orau a’r un mwyaf atgofus. Saif y bedd a’r meini hir yn agos at lwybr pwysig sy’n ffurfio prif lwybr drwy fwlch yn y mynyddoedd. Yn ddiweddarach, datblygodd i ddod yn ffordd Rufeinig oedd yn cysylltu caerau Canovium yng Nghaerhun yn Nyffryn Conwy gyda’r Segontium yng Nghaernarfon.
Dilynwch y B5106 i dde Conwy. Troi i'r dde yn Tal y Bont am Llanbedr y Cennin. Dilynwch y ffordd i'r pen. Maes parcio yn Bwlch y Ddeufaen
Conwy - 8 milltir
Gorsaf bws agosaf yn Groesfordd Rowen
Llwybr beicio Conwy i Fetws y Coed
Dilynwch y trac i lawr yr allt am Rowen o'r cyffordd 'T' gyda'r isffordd am oddeutu 1/2 milltir
Argymhellir esgidiau cerdded. Map yn angenrheidiol. Rhaid cadw cwn ar dennyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 740717 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115