Darllen y tirlun Neolithig
Nid oes neb yn sicr pa mor hynafol yw’r safle hwn ond credir ei fod yn un o’r aneddleoedd Neolithig cynharaf yng Nghymru.
Mae Ystad y Carneddau, y mae’r safle hwn yn rhan ohoni, yn cynnwys dros fil o henebion. Awgryma hyn bod pobl wedi ymsefydlu’n helaeth yn yr ardal hon, o bosib ffermwyr Neolithig a fu’n clirio’r fforestydd o’u coed derw a bedw er mwyn tyfu cnydau a magu anifeiliaid. Heddiw mae geifr gwyllt, disgynyddion yr anifeiliaid hynny, yn parhau i ddringo ar greigiau geirwon cadwyn y Glyderau yn Eryri.
Anodd yw adnabod y tirlun Neolithig o lefel y ddaear oherwydd ei oed. Mae’r anheddiad hwn yn nodweddiadol o eraill yn y rhan hon o’r byd sy’n cynnwys olion adeiladau bychan crwn wedi’u gosod mewn caeau afreolaidd heb fod mewn terasau. Tybir eu bod yn dyddio o’r Oes Efydd oddeutu 3000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r hyn a elwir yn ‘garnedd gladdu’ wedi goroesi ar lethrau de-orllewin Moel Faban, ynghyd â thair carnedd gladdu ar y copa. Cloddiwyd un o’r carneddau hyn yn 1869 a darganfuwyd wrn colerog o ganol Oes yr Efydd (erbyn hyn yn Amgueddfa Pitt-Rivers, Rhydychen).
Cafodd maen mawr ar y bryn ei fedyddio’n ‘faen y saeth’ gan y credir bod y cafn garw a endorrwyd ynddo wedi’i greu gan saethau a gafodd eu hogi arno. I’r dwyrain o’r bryn wrth nant Ffrydlas mae olion cyfres o dwmpathau wedi llosgi. Credir eu bod o ganlyniad i fwyd yn cael ei goginio drwy ollwng cerrig wedi’u gwresogi i byllau bychain a adeiladwyd yn benodol ar gyfer hyn.
O Swyddfa'r Post Carneddi ewch tuag at Teras Cilfoden
Bangor - 8 milltir
Gorsaf bws Ysgol Penybryn
O'r bythynnod ym mhen Cilfoden ewch ymlaen ar hyd y llwbr troed, gan gadw i'r dde i giât y mynydd a'r bryniau agored
Llwybrau Mynydd. Esgidiau cerdded eu hangen. Dylid cadw cwn ar dennyn. Mapiau eu hangen.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Moel Faban: SH 636678, Cwm Ffrydlas SH 644684 Mapiau Landranger yr arolwg Ordnans: 115