Caer ddinesig a chadarnle hynafol
Dyma Heneb Hynafol Restredig ger tref Dolgellau sy’n edrych dros Aber Mawddach. Mewn gwirionedd, dwy fryngaer wedi’u lleoli drws nesaf i’w gilydd yw Moel Offrwm.
Mae’r gaer uchaf, a chredir mai hon yw’r hynaf, yn nodweddiadol o safleoedd eraill sy’n dyddio’n ôl i Oes yr Haearn yn Ynysoedd Prydain. Mae’n mesur oddeutu 300 troedfedd (90 metr) mewn diamedr ac fe’i hamgylchynwyd gan wal gerrig yn wreiddiol, ac mae syfleini oddeutu 40 o gytiau crwn wedi’u canfod. Mae’r safle wedi’i ddifrodi, ac mae hyn wedi arwain at awgrymiadau ei fod wedi’i ddinistrio’n fwriadol, ond ni wyddys pwy wnaeth hynny – mae’n parhau’n ddirgelwch.
Mae’r gaer isaf yn gryn wahanol i’r un uchaf. I ddechrau, mae’n llawer llai ac ni fyddai llawer o bobl wedi medru byw yno. Fodd bynnag, roedd yr amddiffynfeydd yma yn drawiadol iawn, yn cynnwys brigiadau naturiol serth o garreg gyda wal garreg sylweddol wedi’i hadeiladu ar eu pennau. Mae’n nodweddiadol o safleoedd tebyg yr oedd pobl yn trigo ynddynt yn y cyfnod Rhufeinig hwyr. Yn ystod gwaith cloddio a wnaed yn y 1920au, datguddwyd darnau o grochenwaith a modrwy efydd goeth a chredir bod yr eitemau hyn yn dyddio yn ôl i’r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig.
Isffordd Llanfachreth i Ddolgellau
Abermaw - 13 milltir
Gorsaf bws Llanfachreth neu Ddolgellau
Taith gerdded 40 munud i fyny allt. Argymhellir map.
Dim hawl tramwy cyhoeddus. Rhaid cael caniatad Ystad Nannau. Llwybr mynydd. Argymheliir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn. Oddeutu 1/2 milltir o'r maes parcio (Saithgroesffordd)
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Bryngaer: SH 749210, Anheddiad: SH 747206 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124