Siambr gladdu hynafol â cherfiadau cyfareddol
Strwythur hardd ac enigmatig yn edrych dros y môr ym mhen Llŷn. Gelwir y math hwn o siambr gladdu yn gromlech borth. Ystyrir bod yr un ym Machwen oddeutu 5000 o flynyddoedd oed fyddai’n golygu ei bod yn dyddio o’r cyfnod Neolithig.
Mae’r gromlech neu’r bedd yn cynnwys pedwar o feini unionsyth wedi’u gorchuddio â phenllech fawr, wastad ar siâp lletem. Ar y benllech hon mae nifer fawr o farciau capan, sef daneddiadau bach crwn wedi’u cerfio i’r arwyneb gwastad. Dywedir bod dros gant o’r rhain ar yr arwyneb uchaf ac wyth wedi’u cerfio ar wyneb dwyreiniol y garreg. Tybir iddynt fod ag arwyddocâd crefyddol neu ysbrydol.
Mae llawer o ddyfalu sut y byddai’r siambr gladdu wedi ymddangos pan y’i hadeiladwyd. Awgrymwyd bod wyneb uchaf y benllech wedi’i adael yn agored i’r elfennau a bod y bylchau rhwng y cerrig unionsyth wedi’u llenwi â deunydd waliau cerrig sychion. Nid oes neb yn gwybod i sicrwydd. Credir yn gyffredinol bod y rhan fwyaf o siambrau claddu o’r math hwn wedi’u gorchuddio â phridd ac mai dim ond y fynedfa oedd yn cael ei gadael yn agored.
Mae Clynnog ar yr ffordd A499 Caernarfon i Bwllheli.
Bangor - 18.7 milltir
Safle bws ger yr Eglwys
Beicio ar y ffordd fawr
1 milltir o ganol pentref Clynnog Fawr. Croeswch y ffordd newydd a dilyn y llwybr troed i gyfeiriad y môr. Mae'r llwybr troed yn troi i'r chwith yn ymyl y caeau at yr heneb.
Gall y llwybr troed i'r heneb fod yn fwdlyd a gwlyb. Argymhellir esgidiau cerdded. Rhaid i gwn fod ar dennyn. Cadwch at y llwybr troed.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 407495 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123