Mae Caer Seion mewn safle aruchel yn edrych dros Fae Conwy a’r aber. Mae dau gyfnod o weithgarwch wedi bod yn yr anheddiad cadarn a mawr hwn. Yn y cyfnod cyntaf roedd wal gerrig rhwng 3 a 4 metr o drwch yn amgylchynu pen y bryn yn ei gyfanrwydd, oni bai am yr ochr serth yn y gogledd lle nad oedd angen unrhyw amddiffyniad. Mae’r rhan fwyaf o’r wal wedi chwalu bellach, ond ar yr ochr ogledd-orllewinol mae rhan ohoni sydd wedi cadw’n well. Yn ystod yr ail gyfnod adeiladwyd caer lai ond llawer cryfach ym mhen gorllewinol y strwythur gwreiddiol.
Cynhaliwyd gwaith cloddio yn 1951, ond ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ddyddio’r safle. Dangoswyd gan waith cloddio pellach yn 2008 fod pobl yn byw yn y gaer ers o leiaf canol yr Oes Haearn, oddeutu 300 CC. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw grochenwaith Rhufeinig yn y gaer, sy’n arwydd fod pobl wedi gadael y gaer pan fu i’r Rhufeiniaid orchfygu gogledd Cymru yn OC 78, er mae hi’n bosib y gwnaed defnydd ohoni yn ystod y canoloesoedd yng nghyfnod tywysogion Gwynedd.
Roedd dros 50 o dai crwn yn y gaer. Roedd nifer ohonynt wedi’u lleoli yn union y tu ôl i’r rhagfur ar yr ochr ddeheuol, a maent i’w gweld heddiw fel llwyfannau crwn yn derasau yn llethrau’r bryn. Roedd y cytiau crwn yn amrywio o ran maint o oddeutu 4m i 8m mewn diametr yn fewnol ac mae olion rhai o’r muriau i’w weld yn ambell un. Yn ystod y gwaith cloddio yn 1951, darganfyddwyd aelwyd mewn un tŷ yn y gaer leiaf, yn ogystal â dwy sidell (i nyddu gwlân) a breuan (i lifanu ŷd).
Dilynwch y ffordd dros Bwlch Sychnant Pass, Conwy i Dwygyfylchi.
Conwy - 2 filltir
Mount Pleasant, Llys Sychnant - ¼ milltir
O faes parcio Synchnant anelwch am y gopa. Taith gerdded oddeutu 30 munud i'r bryngaer.
Argymellir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 760778 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115