Toi’r Byd
Roedd chwareli llechi Cymru ar anterth y chwyldro diwydiannol yn ‘toi’r byd.’ Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd chwareli llechi Cymru yn cynhyrchu 485,000 tunnell o lechi’r flwyddyn oedd yn cael eu hallforio i bedwar ban byd. Cychwynnodd chwarel Dinorwig yn y 18 ganrif ac erbyn 1870, roedd wedi datblygu i fod yn un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd; y llall oedd Chwarel y Penrhyn, ger Bethesda. Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli yng nghyn ganolfan beirianyddol Chwarel Dinorwig.
Fe’i hadeiladwyd gan deulu cyfoethog Assheton-Smith a oedd yn berchen ar dir yn yr ardal a dyluniwyd adeiladau’r chwarel o gwmpas cwrt canolog mewn arddull mynachlog neu gaer. Ar ei hanterth, roedd y chwarel yn cyflogi dros 3,000 o ddynion. Mae drama eu profiadau dydd i ddydd yn ffurfio canolbwynt y gwahanol arddangosfeydd yn yr amgueddfa, gan gynnwys cyflwyniad 3-D amlgyfrwng Dwyn y Mynydd. Adferwyd y gweithdai gwreiddiol i ymddangos fel petai’r gweithwyr newydd adael eu hoffer ar ddiwedd y dydd. Mae crefftwyr medrus yn dangos sut câi’r llechi eu hollti â llaw cyn iddynt gael eu trosglwyddo i borthladd gan Rheilffordd Llyn Padarn. Mae Chwarel Dinorwig hefyd yn gartref i olwyn ddŵr weithredol fwyaf Prydain, â diamedr o dros 50 troedfedd (15metr).
Yn 2011, cynhwyswyd Diwydiant Llechi Gogledd Cymru yn llwyddiannus ar Rhestr Fer y DU o 11 safle posib ar gyfer Statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO - yr unig safle yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’r enwebiad yn y broses o gael ei ddatblygu ac mae hyn yn debygol o gymryd rhwng 4 a 10 mlynedd i’w gwblhau.
Pasg – Diwedd mis Hydref: 10.00am – 5.00pm, pob dydd.
Dechrau mis Tachwedd – Pasg: 10.00am – 4.00pm, ar gau dyddiau Sadwrn.
Mynediad am Ddim
Wedi ei lleoli o fewn Parc Padarn - dilynwch yr arwyddion Brown a Gwyn
Gorsaf dren agosaf yw Bangor
Gwiriwch amseroedd bws ar wefan Cyngor Gwynedd
Mynediad i gadeiriau olwyn i'r rhan fwyaf o'r Amgueddfa. Toiledau i'r anabl.