Ydych chi’n arogli hen getyn bwganllyd yn mygu…?
Credir mai’r plasty trefol canoloesol hynod hwn yw’r annedd hynaf o’i fath sydd wedi goroesi yng Nghymru. Wrth ddadansoddi cylchoedd coed o un o’r darnau pren, awgrymwyd y cafodd ei adeiladu oddeutu 1420. Roedd hyn yn ystod y cyfnod ar ôl gwrthryfel Owain Glyndŵr, pan ailadeiladwyd yr adeiladau a ddifethwyd yng Nghonwy. Mae’r tŷ’n cynnwys llawr uchaf sy’n crogi dros y stryd ac wedi’i adiladu’n rhannol o goed. Mae’r dyluniad anarferol – er enghraifft, nid oedd llefydd tân yn yr adeilad gwreiddiol – wedi arwain at lawer o ddyfalu yn ei gylch. Credir y gallai’r tŷ fod wedi’i adeiladu i fasnachwyr gan grefftwyr o Swydd Gaer a Chanolbarth Lloegr.
Mae’r adeilad wedi’i ailwampio llawer dros y blynyddoedd i ymgorffori steiliau Jacobeaidd, Sioraidd a Fictoraidd. Ym 1934, rhoddodd Alexander Campbell Blair y tŷ a’i gynnwys i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe sicrhaodd hyn fod y tŷ’n mynd i gael ei ddiogelu. Heblaw am y gwaith celf a’r arddangosiadau sydd i’w gweld yno, mae taith sain-weledol yn cyflwyno darlun byw o dros 600 mlynedd o fywyd yn y tŷ, ynghyd â disgrifiadau o’r bobl amrywiol sydd wedi byw ynddo. Yn ôl y sôn mae ysbryd rhai ohonynt yn llechu yn y tŷ hyd heddiw, yn cynnwys dynes ddirgel ger yr aelwyd a gŵr bonheddig o Oes Fictoria sydd ag iddo arogl gwan o fwg cetyn!
Gweler wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Conwy A55 neu B5106
Conwy - 250 llath
Bysiau yn y tref
Ar lwybr Arfordir Gogledd Cymru llwybr rhif 5
Stryd y Castell, canol y dref
10 step i'r fynedfa, ond mynediad ar gael trwy'r siop yn ogystal. Dim parcio yn ymyl y safle. Dim mynediad cadair olwyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 782775 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans:115