‘Mae ’na aur yn y bryniau a phres yn fy nwrn...’
Er bod galw mawr am aur yng ngweithfeydd Berth-Lwyd a Chefn Coch, roedd yn anodd dod o hyd iddo ac roedd y weithred yn aml yn ddigychwyn.
Er bod y ddau safle yn mwyngloddio’r un wythïen (mwyn), darganfuwyd aur ym Merth-Lwyd am y tro cyntaf ym 1845 ac ym 1862 yng Nghefn Coch. Ar ôl y darganfyddiadau hyn, cafwyd sawl cyfnod o weithgarwch mwyngloddio, yn benodol yn sgil y Rhuthr am Aur yn Awstralia yn yr 1880-90au, nes iddi gau’n derfynol ym 1914. Cafodd cyfanswm o 2661 tunnell o fwyn aur - oedd yn cynhyrchu 1392 owns o aur - ei fwyngloddio yma rhwng 1862 ac 1912. Yn ddiddorol, mae mwynau aur Cymreig yn cynhyrchu hyd at gant yn fwy o aur fesul tunnell o fwyn na gwythiennau cyfwerth De Affrica, ond maent ar raddfa dipyn yn llai.
Mae aur Cymreig yn adnabyddus am fod yn arbennig o boblogaidd ymhlith y teulu brenhinol Prydeinig. Cadwyd y traddodiad pan luniwyd modrwy briodas aur Catherine Middleton gydag aur Cymreig ar gyfer ei phriodas â’r Tywysog William yn 2011.
Heddiw, efallai bydd ymwelwyr â’r safle anghysbell hwn yn gallu dod o hyd i lonydd, systemau rheilffordd ac olion peiriannau. Yn ogystal, gellir dod o hyd i byllau olwyn ddŵr ac olwyn ‘edge-runner’ a ddefnyddiwyd i falu’r mwyn ger y cloddfeydd. Mae ymweld â’r safle – y bedwaredd mwyn cyfoethocaf yn ardal aur Dolgellau ar un adeg – yn daith cerdded bendigedig uwchben Tŷ’n y Groes, i’r goledd o Lanelltyd. A phwy a ŵyr - efallai cewch lwc dda eich hun a tharo ar gnepyn melyn prin...
A470 Ganllwyd
Abermaw - 10 milltir
Gorsaf bws agosaf yw Ganllwyd
Llwybr beic NCN 82 yn ymyl
Dilynwch y ffordd tarmac o Neuadd Bentref Ganllwyd Village Hall. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fap pdf gellir ei lawrlwytho o'r daith yma - gweler linc isod.
Eisgidiau cerdded a map yn angenrheidiol. Cwn ar denyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 719234 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124
Taith Gerdded Ymddiriedolaeth Genedlaethol - Ganllwyd