Mae adfeilion y castell mwnt a beili cloddwaith hwn yn y Sir Ddinbych sydd ohoni heddiw wedi’i orchuddio mewn glaswellt ac yn cael ei bori gan ddefaid erbyn hyn. Ond mae dal modd gweld amlinelliad y strwythur trawiadol yn glir ac mae’n werth stopio ar y ffordd rhwng Rhuthun a Wrecsam i fwrw golwg. Mae safle Tomen y Rhodwydd yn edrych dros fwlch Nant y Garth trwy fryniau Clwyd i gyfeiriad y Gorllewin. Mae’n sefyll yng nghanol ardal a oedd yn cael ei rheoli gan reolwyr Cymreig yr oesoedd canol, ac fe’i hadeiladwyd ym 1149 gan Owain Gwynedd er mwyn amddiffyn y tiroedd yr oedd newydd eu hennill.
Mae’r mwnt, neu’n hytrach tomen y castell, yn meddiannu cornel ogledd-ddwyreiniol y safle a chaiff ei ddiogelu gan ffos i’r gogledd a’r gorllewin. Yn wreiddiol, byddai tŵr pren wedi bod ar ben hwn. Mae’r beili siâp cilgant, neu’r llys, yn cael ei ddiogelu gan ffos hefyd ac mae islaw’r mwnt i gyfeiriad y de-ddwyrain.
Cafodd y castell ei adeiladu ar adeg pan oedd rheolwyr Cymru’n ymladd ymhlith ei gilydd am reolaeth yn y rhanbarth, ac nid oedd Owain eto wedi sefydlu ei hun fel y tywysog Cymreig dihafal. Ym 1157, ymosododd ei elyn, Iorwerth Goch ap Maredudd ar ei gastell a’i losgi. Ond etifeddodd ŵyr Owain, Llywelyn Fawr, uchelgais ei daid a chafodd Tomen y Rhodwydd le yn y llyfrau hanes pan gafodd ei ailadeiladu am gyfnod byr gan y Brenin John ym 1212 yn ystod ei ysgarmesoedd gyda thywysog mawr Cymru.