Cofebion aruthrol yng Nghapel Gwydir, gan gynnwys arch garreg Llywelyn Fawr.
Yn ôl y sôn, mae eglwys brydferth Sant Grwst yn Llanrwst yn bodoli yn sgil trosedd ofnadwy. Yn ôl y chwedl, gwnaeth uchelwr o Gymro, Nefydd Hardd, lofruddio Idwal, mab Owain Gwynedd tra’r oedd allan yn hela. Adeiladodd mab Nefydd, Rhun, eglwys ar y safle hwn ym 1170 er mwyn gwneud yn iawn am bechod ei dad. Cafodd ei chysegru i Grwst, sef sant a sefydlodd eglwys gerllaw yn y 6ed ganrif.
Dioddefodd yr adeilad gwreiddiol ddifrod helaeth yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau’r 15fed ganrif, a chafodd ei ddinistrio’n llwyr ym 1468 yn ystod Rhyfeloedd y Rhos. Cafodd yr eglwys a welwch heddiw ei chodi ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Ar y tu mewn, chwiliwch am y groglen – rhaniad rhwng y gangell a phrif gorff yr eglwys, sydd wedi’i dylunio i gefnogi croes fawr. Y gred yw bod y cerfiad o bren rhyfeddol hwn wedi’i gludo yma o Abaty Maenan gerllaw ym 1537. Ond gellir dadlau, fodd bynnag, mai Capel Gwydir, sydd wedi’i adeiladu ar brif gorff yr eglwys ym 1633, sy’n dal atyniad mwyaf Sant Grwst. Oherwydd yn y fan hon, mae arch garreg Llywelyn Fawr ei hun.
Bu farw Llywelyn ac fe’i claddwyd yn Abaty Aberconwy ym 1240 ond ni chafodd ei weddillion marwol lonydd i orffwys. Ym 1283, gorfododd Edward I i fynachod Aberconwy symud i Abaty ym Maenan, i’r gogledd o Lanrwst, ac aethant â chorff Llywelyn gyda nhw. Pan gafodd Maenan ei ddarostwng gan Harri’r VIII, aed â’r arch - heb y corff - i Eglwys Sant Grwst.
Mae’r caead ar goll ond mae’r cerfio cain o gwmpas yr ochrau’n awgrymu bod y cyfanwaith gwreiddiol yn waith celf trawiadol ar un tro. Heddiw, mae baner hynafol Gwynedd, gyda’i bedwar llew, yn aml yn gorwedd yn yr arch neu gerllaw’r arch.
Lle prydferth i fyfyrio ar fywyd tywysog mwyaf Gwynedd.
Mynediad am Ddim
Mae Tan yr Eglwys yn arwain oddi ar Stryd y Bont, yr A470, yng nghanol Llanrwst.
1/2 milltir o orsaf drenau Llanrwst.
Mae sawl bws yn stopio yn Llanrwst. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Mae Tan yr Eglwys yn arwain oddi ar Stryd y Bont, yr A470, yng nghanol Llanrwst.
Mae Tan yr Eglwys yn arwain oddi ar Stryd y Bont, yr A470, yng nghanol Llanrwst.
Hawdd.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH79746161 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -3.799319, 53.138070 Taflen map OS explorer: OL17