Archwilio

Taith Pererin

Plas Glyn y Weddw - Hawlfraint Plas Glyn y Weddw / Copyright Plas Glyn y Weddw
Ynys Enlli / Bardsey Island - Hawlfraint y Goron: CBHC / © Crown Copyright: RCAHMW

Mae Llwybr Pererin Gogledd Cymru yn lwybr 130 milltir yn cysylltu Ffynnon Santes Gwenffrewi yn Nhreffynnon i Ynys Enlli ac yn gwneud defnydd o lwybrau troed presennol a rhannau o Lwybr Arfordir Cymru. Yn dilyn ôl troed canrifoedd o bererindota i Enlli, mae’r llwybr yn gyfle i bererinion yn yr oes fodern i ddilyn y llwybr gan ymweld â nifer o safleoedd hanesyddol difyr ar hyd y daith a rhyfeddu at amgylchedd naturiol yr ardal.

Mae'r rhan hon o'r wefan yn canolbwyntio ar bererindota yn Llŷn.

Gallwch weld disgrifiad o lwybrau posibl o Dreffynnon i Ynys Enlli drwy fynd i www.pilgrims-way-north-wales.org a gellir gweld rhai o'r lleoliadau ar hyd y llwybr ar y wefan hon o dan y pennawd Mannau Sanctaidd. Mae'n cynnwys Eglwys Sant Iago, Treffynnon a Cadeirlan Llanelwy, ymysg eraill.

Taith Pererinion application/pdf / 1.88 MB

Taith Pererin ar y Map

Map