Archwilio

Gwreiddiau a Cyn Hanes

Mwynglawdd Hynafol y Gogarth / Great Orme Mines - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage
Bryn Cader Faner - Hawlfraint / Copyright Mick Sharp
Meini Hirion - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage

Mae gorffennol cynhanes anghredadwy yn disgwyl y rhai sy’n awyddus i ddarganfod yr henebion syn britho llawer o gymeriad cefn gwlad gogledd Cymru. Mae tystiolaeth yn y dirwedd yn dweud stori gyfoethog o gymunedau cynnar a’u seremonïau ysbrydoledig, bywyd amaethyddol a thechnolegol a’u cysylltiadau ymhellach gyda cynhanes Ewropeaidd. Mae Archeolegwyr wedi canfod olion bywyd ar draws mil flynyddoedd – mae claddedigaeth dynol a thamaid o asgwrn gên ceffyl wedi ei harddurno wedi eu darganfod yn Ogof Kendrick ar Fwynglawdd y Gogarth, Llandudno, sydd wedi ei ddyddio i 11,000 i 10,000CC (Cyfnod Upper Paleolithic). Oddeutu 5000 o flynyddoedd yn ôl roedd beddrodau mawr o gerrig, tebyg i’r rhai yn Dyffryn Ardudwy yn cael eu llunio. Yn aml mewn lleoliadau arfordirol fe ddaethant yn ganolbwynt bywyd cymunedol yn ystod y cyfnod. Roedd pen bryniau dramatig a llwybrau mynyddoedd yn leoliadau ar gyfer y cylch cerrig a chladdedigaethau oddeutu 4000 o flynyddoedd yn ôl, eto yn dangos pwysigrwydd y dirwedd i’r bobl hyn. Llai na 3000 o flynyddoedd yn ôl roedd mwy o adeiladu brynceiri, rhai ddaeth yn ddiweddarach yn leoliadau caer a chestyll canoloesol. Gellir archwilio nodweddion archeolegol o gylchoedd meini hir a beddrodau, i fryngaerau a chwareli, ar droed. Gwisgwch eich esgidiau cerdded, paciwch frechdan neu ddwy a dewch ar siwrne yn ôl i’r byd hynafol.

Gwreiddiau a Cyn Hanes ar y Map

Map

Dilyn y Stori