Archwilio

Mannau Sanctaidd

Plas Glyn y Weddw - Hawlfraint Plas Glyn y Weddw / Copyright Plas Glyn y Weddw
Eglwys St Hywyn's Church - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage
Ffynnon Gybi / St Cybi's Well - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage

Byddwch yn barod i ddod ar draws tirwedd drawiadol gogledd Cymru yn cynnwys mynyddoedd hudol, cymoedd heddychlon a morluniau godidog. Yn yr oesoedd canol, teithiai pobl ar bererindod o Dreffynnon i Ynys Enlli ym Mhenrhyn Llŷn, gan ymweld â ffynhonnau sanctaidd a chysegrfeydd wedi’u cysegru i seintiau Celtaidd mewn eglwysi ar hyd y siwrne. Heddiw, mae Taith Pererin Gogledd Cymru yn rhoi cyfle i gerddwyr brwd ddilyn ôl-troed y pererinion canoloesol ac ymweld â safleoedd cysegredig ar hyd y siwrne 130 milltir. Mae’r dirwedd yn frith o chwedlau hefyd. Mae 11 chwedl y Mabinogi, sy’n sôn am hud, dewrder a brad, wedi’u lleoli mewn mannau y gellir eu hadnabod heddiw. Gallwch ganfod hanesion pobl ysbrydoledig, megis Yr Ysgwrn – cartref y prifardd Hedd Wyn a Mary Jones (y ferch fu gerdded 25 milltir i brynu Beibl Cymraeg), gan ymweld â safleoedd a dilyn llwybrau sy’n datgelu eu straeon. Mae trysorau diwylliannol mewn celf, llenyddiaeth a phensaernïaeth i’w darganfod mewn lleoliadau megis Portmeirion neu Cae’r Gors, Rhosgadfan man geni yr awdures Kate Roberts. P’un a ydych yn chwilio am anogaeth ysbrydol wrth fyfyrio’n dawel mewn eglwys, neu fwynhau prydferthwch panoramig o ben mynydd, dyma’r lle i chi.

Mannau Sanctaidd - Llinell Amser

Llinell Amser

Mannau Sanctaidd ar y Map

Map

Dilyn y Stori