Archwilio

Tywysogion Gwynedd

© Croeso Cymru / © Visit Wales
©  Sarah McCarthy

Roedd tywysogion Gwynedd yn olrhain eu llinell frenhinol yn ôl i hen amser a nhw oedd llinach fwyaf grymus Cymru’r Oesoedd Canol. Estynnodd eu teyrnas o dir ffrwythlon Ynys Môn i fynyddoedd mawreddog Eryri ac ar un adeg, roedd yn cwmpasu Cymru bron iawn i gyd. Brwydrodd y tywysogion yn erbyn ei gilydd ac yn erbyn coron Lloegr am dros 800 o flynyddoedd er mwyn sicrhau eu sefyllfa o fod mewn grym. Ond nid adeg o ryfela a chythrwfl yn unig oedd hwn. Ffurfiodd y tywysogion gysylltiadau diwylliannol a chrefyddol cryf gyda chyfandir Ewrop, a chafodd pensaernïaeth, cerddoriaeth a barddoniaeth hyfryd eu noddi ganddynt. Gallwch weld eu gwaddol heddiw ar hyd a lled Gogledd Orllewin Cymru. Ewch i ddilyn ôl troed y tywysogion, a darganfyddwch gestyll cudd, preswylfeydd brenhinol ac eglwysi heddychlon mewn tirweddau syfrdanol.

Tywysogion Gwynedd - Llinell Amser

    Llinell Amser

    Tywysogion Gwynedd ar y Map

    Map

    Dilyn y Stori