Archwilio

Cenedl Diwydiannol

Chwarel Nantlle Quarry - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage
Rheilffordd Talyllyn Railway - Hawlfraint Cyngor Gwynedd / Copyright Gwynedd Council
Gwaith cloddio Cyffty Lead Mine - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage

Trawsnewidiwyd tirlun yn nhrefi a chefn gwlad gogledd Cymru ar ddiwedd y 18fed a 19eg ganrif yn sgil datblygiad diwydiannol anferth. Wrth i ddatblygiadau newydd mewn technoleg a pheirianneg weld golau dydd, gwelwyd newid mawr yn y dulliau o fwyngloddio adnoddau naturiol megis llechi a chopr. Roedd hyd yn oed mwyngloddio am aur o amgylch Dolgellau! Mae nifer o bentrefi a threfi yng ngogledd orllewin Cymru yn bodoli oherwydd cloddio llechi, ac mae olrhain y diwydiant anferthol hwn i’w gweld mewn gweithiau chwarel a bythynnod y gweithwyr sy’n dal i fodoli mewn llefydd fel Dyffryn Nantlle. Yn ogystal, datblygodd dulliau trafnidiaeth a gwelwyd rheilffyrdd cul yn igam-ogamu ar draws y tir fel dull o drosglwyddo llechi i porthladdoedd Caernarfon, Porthmadog, a Bangor. Allforiai’r porthladdoedd hyn ffrwyth llafur diwydiannol yr ardal ar draws y byd – hyd yn oed mor bell ag Awstralia. Yn fwy lleol, galluogodd peirianwyr megis Thomas Telford a Robert Stephenson i leihau siwrnai teithio drwy adeiladu eu pontydd arloesol dros Afon Menai. Beth am ddarganfod yr amrywiaeth eang o berlau diwydiannol drwy wisgo eich het galed a mynd i chwilota yn yr ogofâu tanddaearol yn Llechwedd, neidio ar un o drenau y rheilffyrdd cul i deithio ar draws dyffrynnoedd y chwareli llechi neu gerdded ar hyd y pier glan môr ym Mangor a adeiladwyd gyda mawredd peirianyddol Fictorianaidd?

Cenedl Diwydiannol - Llinell Amser

Llinell Amser

Cenedl Diwydiannol ar y Map

Map

Dilyn y Stori