Y ferch 15 oed a gerddodd yn droednoeth 25 milltir i brynu copi o’r Beibl yn y Gymraeg gan Thomas Charles yn y Bala
Ganwyd yn 1784 i deulu Cymraeg tlawd ym mhentref Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd. Roedd ei thad yn wehydd ac ei rhieni yn anghydffurfwyr ac yn addoli yn y capel yn hytrach na’r eglwys. Oherwydd ei magwraeth fel Methodist Calfinaidd roedd yn benderfynol o gael copi ei hun o’r Beibl Cymraeg, ac roedd yn ymrwymiad iddi fod yn Gristion drwy ei hoes.
Dysgodd ddarllen yn yr ysgolion a drefnwyd gan Thomas Charles o’r Bala, a dywedir y byddai’r Mari ifanc yn cerdded 2 filltir i fferm gyfagos er mwyn darllen copi o’r Beibl. Yn benderfynol o feddu ei chopi ei hun, dechreuodd gynilo ers iddi fod yn wyth oed er mwyn cael copi. Er bod arian yn brin, ar ôl chwe blynedd roedd hi wedi llwyddo i gasglu digon o arian.
Y dref agosaf oedd y Bala, 25 milltir i ffwrdd. Mae’r stori am iddi gerdded yn droednoeth dros fynyddoedd ac afonydd yn ddeunydd chwedloniaeth Cymru, wedi ei ddysgu mewn ysgolion fel ysbrydoliaeth a thystiolaeth i’w phenderfyniad a’i hymroddiad i Gristnogaeth.
Mae tro yng nghynffon y stori fodd bynnag: wedi cyrraedd y Bala dywedwyd wrthi gan Thomas Charles nad oedd dim mwy o Feiblau ar ôl i’w gwerthu. Roedd yn torri ei chalon a wyddai hi ddim beth i’w wneud, ac roedd ei siom yn gymaint nes, yn ôl y gwahanol storïau, mae Thomas Charles naill ai’n rhoi ei gopi ei hun iddi neu’n trefnu llety iddi yn y Bala nes bod llwyth newydd o Feiblau yn cyrraedd.
Cafodd ymdrechion Mari Jones effaith ddofn ar Charles, a daeth yn fwy penderfynol nag erioed i helpu pobl gael mynediad i’r Beibl. Roedd ei weledigaeth yn amlwg pan gyhoeddodd “Beibl i bawb o bobl y Byd”. Yn 1804 sefydlwyd Cymdeithas y Beibl i ddosbarthu Beiblau dros y byd i gyd.
Bu farw Mari Jones yn 1864 a chladdwyd hi ym mynwent capel Methodist Calfinaidd Bryncrug.