Cadlywydd Lluoedd Rhufeinig ym Mhrydain ac Ymerawdwr Prydain a Gâl.
Magnus Maximus oedd cadlywydd y lluoedd Rhufeinig ym Mhrydain yn 383 Oed Crist. Llwyddodd i drawsfeddiannu’r orsedd oddi wrth yr ymerawdwr Gratian, ac yn y flwyddyn ddilynol daeth yn ymerawdwr Prydain a Gâl
Mae Magnus Maximus yn berthnasol i hanes Cymru fel y cadlywydd sy’n dod â phresenoldeb milwrol Rhufeinig i ben yng Nghymru – mwy na thebyg yn y deng mlynedd sy’n dilyn 383OC. Fodd bynnag, gallai Segontium, y gaer Rufeinig yng Nghaernarfon, fod wedi cael ei defnyddio tan 393 OC.
Yn ôl chwedlau Cymreig, ble mae’n cael ei adnabod fel Macsen Wledig, dywedir iddo briodi ag Elen (neu Helen), merch pennaeth oedd wedi ei leoli yn nghaer Segontium yng Nghaernarfon. Mae’r chwedl hon, Breuddwyd Macsen, yn cael ei chynnwys yn chwedlau’r canol oesoedd, y Mabinogion. Mae’r stori yn disgrifio sut mae Macsen yn breuddwydio am Elen ac yn anfon milwyr i chwilio amdani – gan ddod o hyd iddi o’r diwedd yn Segontium.
Gwyddom hefyd fod Sieffre o Fynwy hefyd wedi ysgrifennu am Magnus Maximus. Efallai bod chwedlau llawer cynt am y cymeriad hwn, ond nid oes gan y stori am y freuddwyd, a’r cysylltiad ag Elen a Segontium unrhyw sail hanesyddol.