Yn cael ei adnabod fel ‘Hammer of the Scots’ neu ‘Longshanks’ a orchfygodd gwrthryfel y Cymry dan Llywelyn ein Llyw Olaf
Yn fab i Harri III, cofir Edward fel un o frenhinoedd grymusaf y Saeson; cryfhaodd awdurdod y senedd a gorfododd y gyfraith. Roedd o hefyd y brenin Seisnig ‘anghywir’ i ddechrau ymladd yn ei erbyn, fel y darganfu Llywelyn ap Gruffudd a’i frawd Dafydd. Gorchfygwyd a lladdwyd y ddau, Llywelyn yn 1282 a Dafydd yn 1283 yn dilyn y rhyfeloedd Cymreig am Annibyniaeth yn erbyn Lloegr.
Ar farwolaeth Llywelyn ap Gruffydd yng Nghilmeri ger Llanfair ym Muallt yn Rhagfyr 1282, a dal ei frawd yn ddiweddarach yng ngwanwyn 1283, roedd Edward o’r diwedd wedi gorchfygu tywysogion Gwynedd. Aeth ymlaen i adeiladu cylch o gestyll o amgylch mynyddoedd Eryri i atgyfnerthu ei awdurdod yng Nghymru.
Mae’r cestyll hyn, Harlech, Caernarfon, Conwy a Biwmares yn gampweithiau y pensaer a’r saer maen James of St George. Mae’r adeiladau urddasol yn dal i sefyll, ac yn symbolau o rym Edward I a’i orchfygiad o’r Cymry hyd heddiw.
Cafodd Edward I hefyd un effaith barhaol arall ar Gymru. Ar ei enedigaeth yn 1284 cyflwynodd ei fab, a ddaeth yn ddiweddarach yn Edward II, fel tywysog Cymru, gan ddweud “bod ei fab wedi ei eni yng Nghymru ac yn methu siarad gair o Saesneg”. Awgrymir hefyd fod Edward wedi dewis Caernarfon yn fwriadol fel man geni ei fab i dawelu’r Cymry ar ôl iddynt gael eu gorchfygu dan Llywelyn ap Gruffudd.
Arwisgwyd Edward VIII a’r Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon fel Tywysog Cymru yn ystod yr 20fed ganrif, gan barhau mewn gwirionedd y traddodiad a ddechreuwyd gan Edward I.