Siwan oedd merch anghyfreithlon y Brenin John o Loegr. Nid yw ei bywyd cynnar wedi’i ddogfennu, ond ymddangosodd ym myd hanes yn sydyn oddeutu 1205 (nid yw’r union ddyddiad yn glir) pan briododd â Llywelyn Fawr. Priodas ddiplomatig oedd hon gyda’r bwriad o gryfhau’r berthynas llawn straen o bosibl rhwng Coron Lloegr a thywysog Gwynedd – ac yn wir, cyfryngodd Siwan yn llwyddiannus ar sawl achlysur rhwng ei gŵr a’i thad.
Fodd bynnag, erbyn 1211, roedd y ddau ŵr yn rhyfela. Goresgynnodd y Brenin John Ogledd Cymru ac roedd mewn sefyllfa i ddinistrio Llywelyn unwaith ac am byth. Cafodd Siwan ei hanfon i ddofi dicter ei thad, ac er y bu rhaid i’r tywysog ildio llawer o dir i John a thalu teyrnged drom, ni chafodd ei ddadfeddiannu’n llwyr. Ar ôl i Harri III ddod i’r orsedd ym 1216, parhaodd Siwan i bledio achos Gwynedd i’r llys yn Lloegr.
Mae ‘Boneddiges Cymru’n cael ei chofio orau am ddrama ei bywyd domestig. Ym 1230, cafodd Siwan ei dal mewn godineb gyda Gwilym Brewys, uchelwr o Loegr yr oedd Llywelyn yn trafod cynghrair wleidyddol gydag ef. Deliodd y tywysog yn chwim ac yn dreisgar â’r sefyllfa: dienyddiwyd cariad Siwan a chafodd hithau ei charcharu yn y cartref. Ymddengys bod Llywelyn wedi maddau iddi’r flwyddyn ganlynol, a bu’r ddau fyw mewn hapusrwydd i bob golwg tan ei marwolaeth yn Abergwyngregyn ym 1237. Mae’r ddrama Gymraeg adnabyddus gan Saunders Lewis, Siwan, yn ymdrin â’r digwyddiadau hyn yn bwerus.
Cafodd Siwan ei chladdu yn Llanfaes ar arfordir Ynys Môn yn wynebu Abergwyngregyn, er mwyn, yn ôl pob sôn, i Llywelyn allu syllu ar draws y Fenai a gweld man gorffwys olaf ei anwylyd. Sefydlodd Mynachlog Ffransisgaidd ar y safle, a ffynnodd tan goncwest y Saeson o Wynedd ym 1283 ac mae modd gweld arch Siwan yng nghyntedd eglwys y plwyf Biwmaris o hyd.