Y Ddraig Goch
Mae yna stori enwog sy’n gysylltiedig â Dinas Emrys a fyddai wedi bod yn gyfarwydd yn ystod amser y tywysogion, trwy lenyddiaeth gyfoes a Chymreig cynharach. Yn ôl y chwedl hon, yn Ninas Emrys - yn llythrennol ‘Caer Emrys’ y daeth y symbol parhaus o Gymru, sef y ddraig goch, i’r amlwg am y tro cyntaf. Yn ôl y sôn hefyd, yn Ninas Emrys gwnaeth un o ffigurau mwyaf chwedl Prydain ei fynediad cyntaf i’r llwyfan mythau.
Yn ôl y stori, gwnaeth Gwrtheyrn, rheolwr pwerus ym Mhrydain yn y 5ed ganrif O.C., safiad yn erbyn y goresgynwyr Eingl-Sacsonaidd. Ceisiodd adeiladu cadarnle ar y bryn strategol hwn. Bob dydd, roedd yn anfon ei adeiladwyr i weithio, ond bob bore, byddent yn deffro i bentyrrau o rwbel yn gorwedd lle’r oedd y waliau newydd eu hadeiladu wedi sefyll. Awgrymodd ymgynghorwyr o gonsurwyr Gwrtheyrn ateb: roedd rhaid iddo aberthu ‘bachgen heb dad’ ac ysgeintio’i waed ar y safle lle dymunai adeiladu.
Daethant o hyd i fachgen priodol yn gyflym. Cyn y gallent dynnu ei waed, fodd bynnag, llwyddodd i argyhoeddi Gwrtheyrn fod ei broblemau o dan y tir. Dywedodd fod llyn o dan y bryn ac ynddo roedd dwy ddraig. O gloddio, cafodd y bachgen ei brofi’n iawn a, phan gawsant eu rhyddhau, cafodd y ddwy ddraig - un goch, un wen - frwydr yn erbyn ei gilydd. Y ddraig goch enillodd y dydd ac mae’r gorchfygiad symbolaidd hwn ar y Sacsoniaid gan y Prydeinwyr yn cael ei gofio ar faner Cymru hyd heddiw.
Enwodd Gwrtheyrn y castell a adeiladodd yn y pen draw ar ôl y bachgen a roddodd y cyngor iddo. Myrddin Emrys oedd ei enw. Ond rydym yn ei adnabod heddiw fel Myrddin, y dewin gwych a chynghorydd y Brenin Arthur.
Mynediad am Ddim
1 filltir i’r gogledd-ddwyrain o Feddgelert ar yr A498.
16 milltir o orsaf drenau Betws-y-Coed. Mae Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru’n stopio ym Meddgelert bron bob dydd rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. Ewch i http://www.whr.co.uk/ i gael mwy o wybodaeth.
Mae Gwasanaeth Bws Sherpa yn mynd trwy Nantgwynant. Dyma’r gwasanaeth sy’n mynd yn ôl ac ymlaen o gwmpas gwaelod yr Wyddfa gan gysylltu pob un o’r chwe phrif lwybr troed a’r pentrefi o’u hamgylch. Mae amserlenni ar gael yn http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=2567&doc=25961&language=1&p=1&c=1.
1 filltir o Feddgelert ar yr A498.
1 filltir o Feddgelert ar yr A498.
Canolig. Serth a llithrig mewn mannau. Angen esgidiau cerdded. Cwn ar dennyn
Manylion ymarferol ar fynediad (cyswllt gwe i wybodaeth ymarferol os yn briodol) Gellir mynd at y safle o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghraflwyn. Gwefan yr ymddiriedolaeth yw http://www.nationaltrust.org.uk/craflwyn-and-beddgelert