Cyn y Chwyldro Diwydiannol, buom yn nyddu a gwehyddu gwlân yn ein cartrefi yn defnyddio cardiau llaw, troellau nyddu a gwyddiau llaw. Aethpwyd â’r defnydd wedi ei wehyddu i felin pandy i’w olchi a’i orffen. Yna caiff y defnydd ei ymestyn a’i osod ar fachau deintur mewn cae i sychu.
Melin pandy oedd hon i ddechrau, ger afon Crafnant. Gosodwyd y felin yma er mwyn medru defnyddio’r dŵr i gynnal yr olwynion dŵr ac i olchi’r defnydd. Datgymalwyd yr olwynion dŵr oddeutu 1990 pan osodwyd y tyrbin ynni dŵr cyntaf un. Mae’r tyrbin a welir heddiw yn dyddio’n ôl i’r 1940au.
Prynodd Thomas Williams y felin ym 1859 a bu’r felin yn ffynnu am o leiaf deg mlynedd ar hugain cyn hynny. Mae hi’n dal yn nwylo’r un teulu hyd heddiw.
Heddiw, maent yn dal yn cribo, nyddu a gwehyddu gwlân i greu cwiltiau “tapestri” Cymraeg traddodiadol, blancedi a brethyn. Mae’r peiriannau a ddefnyddir dros 50 mlynedd oed! Gall ymwelwyr weld y peiriannau a’r tyrbin ynni dŵr ar waith (ddydd Llun – ddydd Gwener o ganol mis Chwefror hyd at ganol mis Rhagfyr). Gallwch hefyd weld hen beiriannau eraill yn amgueddfa’r felin o’r Pasg hyd at fis Hydref. Ewch i’r wefan i weld y dyddiadau ar gyfer arddangosiadau nyddu â llaw a chreu matiau racs.
O ganol mis Chwefror hyd at ganol mis Rhagfyr
Ddydd Llun – ddydd Gwener
10.00 yb – 1.00 yp a 2.00 yp – 5.00 yp
Mynediad am Ddim
Mae’r felin yng nghanol pentref Trefriw ar y B5106, pum milltir i’r Gogledd o Fetws-y-coed. Cod Post ar gyfer eich Sat Nav: LL27 0JG
Gorsaf agosaf yw Cyffordd Llandudno
Taith bws 19 o Gyffordd Llandudno, Conwy a Llanrwst
Maes parcio cyhoeddus am ddim gyferbyn ag amgueddfa’r felin