Trysorau morwrol lu yn Abermaw
Mae Sefydliad y Morwyr yn Abermaw yn symbol unigryw o dreftadaeth forwrol y dref. Fe’i hadeiladwyd ym 1890 gan y Canon Edward Hughes a benderfynodd y dylai Abermaw gael man cyfarfod i ddynion gael chwarae biliards neu ddim ond eistedd a darllen. Yn ogystal, mewn cymunedau morwrol ar ddiwedd oes Fictoria, nid oedd yn anghyffredin i’r math hwn o sefydliad fod yn lleoliad lle gallai teuluoedd morwyr ei fynychu er mwyn derbyn newyddion am fordaith ddiweddaraf eu hanwyliaid drwy ymgynghori â Rhestr Lloyds a’r Shipping Gazette.
Heddiw, mae’r adeilad a adnewyddwyd ar agor i’r cyhoedd, yn rhad ac am ddim, bob dydd yn ystod yr haf a rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn o fis Hydref tan fis Ebrill. Mae cyfoeth o ffotograffau a gwrthrychau i’w gweld yma sy’n adrodd straeon y morwyr a’u cymuned glos.
Ceir sawl atyniad treftadaeth arall y gellir ymweld â hwy yn Abermaw, yn cynnwys Tŷ Gwyn, adeilad sy’n dyddio nôl i 1460 ac sydd â’i nenfwd gwreiddiol o hyd. Fe’i hadeiladwyd fel llwybr dianc posib i’r môr ac mae’n bosib iddo gael ei ddefnyddio fel cuddfan gan Jasper Tudor, Iarll Penfro, pan oedd yn cynllwynio i ddiorseddu Rhisiart III ym Mrwydr Bosworth. Mae arteffactau o longddrylliad y Bronze Bell yn cael eu harddangos ar hyn o bryd.
Carchardy yw Tŷ Crwn a adeiladwyd ym 1834 i gadw meddwon a mân droseddwyr eraill dan glo cyn iddynt gael eu hanfon i’r llysoedd neu garchar sirol Dolgellau. Rhannwyd yr adeilad yn ddau hanner – un ar gyfer dynion, un ar gyfer merched – ond dim ond tan yr 1860au y cafodd ei ddefnyddio.
I goroni eich ymweliad ag Abermaw, ewch i weld cerflun ‘The Last Haul’ gyferbyn â thafarn y Last Inn. Cafodd ei greu gan Frank Cocksey, cerflunydd lleol, ac mae tair cenhedlaeth o bysgotwyr wedi’u cerfio o floc o farmor Carrara. Mae’n deillio o longddrylliad a ddarganfuwyd oddi ar arfordir Abermaw gan ddeifwyr ym 1978.
Dydd Llun i ddydd Sadwrn (Hydref i Ebrill)
Dyddiol (Mai i Medi)
Mynediad am Ddim
Oddi ar yr A496 dilynnwch ffordd fechan (Harbour Road) ar hyd y cei ac o dan bont y rheilffordd.
Abermaw
Gorsaf bws ger y rheilffordd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 615155 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124