Hanes Diwydiant Pysgota Cregyn Gleision Conwy ar Lafar
Mae diwydiant y cregyn gleision yn bodoli yng Nghonwy ers amser. Roedd mwy na naw deng pysgotwr yn arfer casglu cregyn gleision yn Afon Conwy. Er bod cystadleuaeth heddiw gan bysgotwyr cregyn gleision sy’n eu tyfu ar raff neu’n eu casglu drwy garthu afonydd, mae pysgotwyr Conwy’n dal i’w casglu yn y dulliau traddodiadol.
Yn oes y Rhufeiniaid roedd perlau i’w canfod yng nghregyn gleision Afon Conwy.Mae perl o uwch i fyny yn yr afon yn rhan o emau coron Lloegr. Yn ôl y sôn rhoddodd Syr Richard Wynn o Wydir, Siambrlen Catherine, gwraig Siarl II, y perl enfawr hwn iddi yn yr ail ganrif ar bymtheg.
Dros y blynyddoedd, bu i’r fasnach berlau ffynnu a daeth Conwy yn un o bysgodfeydd perlau pwysicaf Prydain. Am flynyddoedd casglwyd y cregyn gleision yn unig er mwyn cael eu perlau a byddai’r cnawd yn mynd yn sbwriel neu’n fwyd i anifeiliaid. Wrth i berlau fynd yn brin, casglwyd y cregyn fel bwyd a dyna oedd egin y diwydiant a welwn ni hyd heddiw.
Ers dyddiau cyntaf diwydiant y cregyn gleision, mae cenedlaethau o’r un teuluoedd yng Nghonwy wedi gweithio yma ar yr un traethau ar lan yr aber. Tan yn ddiweddar byddai merched y teuluoedd hefyd wrthi’n casglu ac yn trefnu’r cregyn. Mae pysgotwyr y cregyn gleision yn dal i ddefnyddio’r un technegau â’u cyndeidiau, yn tynnu’r cregyn o wely’r afon gyda chribyn a’u rhoi yn y cwch cyn dod â nhw i’r lan i’w glanhau a’u trefnu.
Mae Teithiau Sain wedi eu creu gan TAPE Community Music & Film trwy brosiect Ein Treftadaeth. Mae saith taith sydd i gyd yn dechrau yn rhywle gwahanol. Mae’r teithiau’n amrywio o ran amser, mae’r byrraf yn parhau am oddeutu hanner awr.
Cewch wybodaeth hanesyddol am ddiwydiant pysgota’r cregyn gleision yng Nghonwy a sut y bu iddo dyfu a datblygu yn ogystal â dyfyniadau o gyfweliadau o erthyglau’r wasg a chyfweliadau â physgotwyr y cregyn gleision.