Prydferthwch gwydr lliw yng nghalon Sir y Fflint.
Mae gwreiddiau Eglwys Llanasa yn dyddio nôl i’r 6ed ganrif, pan honnir bod Sant Asaff wedi sefydlu eglwys ar y safle hwn. Mae’r un a saif yma heddiw wedi’i chysegru i Sant Asaff a Sant Cynderyn ac fe’i hadeiladwyd yn y bymthegfed ganrif. Yn wir, mae’r cysylltiad â Sant Asaff hyd yn oed yn ddyfnach na hynny - credir bod ei greiriau yn wreiddiol wedi cael eu gosod yn yr eglwys cyn cael eu symud i Gadeirlan Llanelwy ym 1281.
Nid yw’n syndod bod yr eglwys berpendicwlar wedi cael ei hadfer ers iddi gael ei hadeiladu yn y canoloesoedd. Yn ystod gwaith adfer mawr ym 1877, cafodd do, ffenestri a chyntedd deheuol newydd. Gellir gweld nodweddion cynnar o hyd, yn cynnwys beddrod Gruffydd Fychan, tad Owain Glyndŵr, o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a phulpud o’r ail ganrif ar bymtheg. Efallai bod y ffenestr ddwyreiniol yn dod o Abaty Dinas Basing gerllaw, un o’r darnau sy’n weddill ar ôl i Harri’r VIII orchmynu bod mynachlogydd yn cael eu diddymu ym 1536.
Mae’r eglwys yn cynnwys sawl ffenestr wydr lliw hardd. Ar wal ddwyreiniol corff deheuol yr eglwys, mae’r Croeshoeliad gyda’r Forwyn Fair a Sant Ioan yn dyddio nôl i’r unfed ganrif ar bymtheg ond cafodd ei adfer ym 1877. Yng nghorff gogleddol yr eglwys, dengys Santes Cathrin ochr yn ochr â Sant Iago a Sant Laurence mewn ffenestr arall o’r unfed ganrif ar bymtheg a gafodd ei hadfer. Mae corff gogleddol yr eglwys hefyd yn cynnwys ambell ddarn o gelf fodern wedi’i wneud â gwydr lliw, yn cynnwys portread Molly Kettlewell o Sant Barnabas o 1979.
Dilynwch yr A548
Prestatyn - 4 milltir
Gwasanaeth bws rheolaidd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SJ1065681430