Eglwys hyfryd ar hen lwybr y pererinion i Ynys Enlli
Mae llawer o eglwysi Llŷn wedi cael eu cysegru i seintiau Celtaidd y 5ed a’r 6ed ganrif. Gall y ffaith fod yr eglwys hon wedi’i chysegru i’r Santes Fair awgrymu iddi gael ei sefydlu mewn cyfnod diweddarach. Rhestrir yr eglwys yn Llyfr Treth Norwich 1254.
Roedd Cristnogion cynnar yn aml yn dewis adeiladu eglwys gerllaw ffynnon sanctaidd, ac mae’n debygol fod yr eglwys ym Mryncroes yn enghraifft o hyn. Saif yr eglwys ger Ffynnon y Santes Fair (SH 227313), ac nid oes amheuaeth fod pobl a oedd wedi cael tröedigaeth yn cael eu bedyddio yma. Hyd heddiw defnyddir dŵr o’r ffynnon mewn bedydd. Amgylchynir y ffynnon bellach gan wal fodern, ond gall y grisiau fod yn dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif.
Mae rhannau o’r eglwys ganoloesol yn dal i oroesi mewn mannau, ond cafodd Eglwys y Santes Fair ei adnewyddu’n helaeth yn 1905-06. Yr hyn a welwn bellach yw adeilad modern yn yr arddull Romanésg, ond sy’n dal yn hyfryd i’w gweld. Mae deial haul o bres wedi’i osod mewn postyn pren i’r gorllewin o’r eglwys wedi ei ddyddio’n 1692.
Mae Bryncroes ychydig oddi ar y briffordd o Bwllheli i Aberdaron ar hyd Taith Pererin Gogledd Cymru. Mae islaw safle’r Ffatri Fwyeill Neolithig ar Fynydd Rhiw.
Ar agor trwy'r flwyddyn
Dilynwch arwyddion am Bryncroes oddi ar y B4413 yn Aberdaron
Pwllheli - 11 milltir
Gorsaf bws Bryncroes
Mae'r eglwys wedi ei lleoli yng nghanol y pentref
Y mae 3 stepen i mewn i'r fynwent sy'n ei gwneud hi'n anodd cael mynediad anabl
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH226315 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123