Darganfyddwch weddillion adeiladau porfa haf canoloesol, sy’n nythu mewn cwm crog uwchben Bwlch Llanberis
Mae gweddillion dau annedd canoloesol syml i’w gweld ar grib yn uchel uwchben Nant Peris, gerllaw Canolfan Clwb Dringo Ynys Ettws. Mae un adeilad wedi cael ei gloddio, ac mae tystiolaeth dyddio yn awgrymu iddo gael ei adeiladu yno mor gynnar â chanol yr 11eg ganrif, ac iddo gael ei ddefnyddio am sawl canrif.
Yn y cyfnod canoloesol roedd yn arferiad da symud anifeiliaid i fyny i’r ucheldir dros yr haf. Mae’n debygol mai ‘hafotai’ oedd y ddau dŷ yma, a ddefnyddid gan ffermwyr wrth ofalu am eu hanifeiliaid.
Mae’r ddau wedi cael eu torri i ochr y llethr i wneud llwyfan gwastad i adeiladu arno. Saif y ddau dŷ tua 60m oddi wrth ei gilydd, ac fe’u hadeiladwyd yn agos i ffynhonnau o ddŵr glân.
Mae’r gweddillion heddiw’n cynnwys meini mawr waliau cerrig sych a dim ond siâp y tai y gellir ei weld. Mae’r to o dyweirch neu wellt ac unrhyw strwythurau pren wedi hen ddiflannu.
Mae’n werth cerdded y daith hon am y golygfeydd ar hyd Nant Peris a throsodd tuag at y dringfeydd ar ochr ddeheuol Glyder Fawr.
Oddi ar y A4086 Nant Peris
Betws y Coed - 12 milltir
Man gollwg Gwastadnant
Croeswch yr afon o Bont y Gromlech a cerddwch i'r gogledd am 500m i'r top, neu dringwch i fyny tu ôl i Ynys Ettws
Taith gerdded ar ucheldir dros dir corsiog. Argymhellir esgidiau cerdded. Map yn angenrheidiol.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 626566 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115