Siambr Gladdu Neolithig gyda phorth uchel cain iawn
Yn sefyll ar grib 300 troedfedd uwchlaw lefel y môr ger Chwareli Llechi Llanfair, ychydig oddi ar y ffordd rhwng Harlech ac Abermaw, mae’r siambr gladdu Neolithig hon yn enghraifft wych o gromlech borth. Mae beddrodau o’r fath yn gyffredin iawn ar arfordir gorllewinol Cymru a chânt eu nodweddu gan borth uchel neu fynedfa i’r siambr a chapfaen fawr, llorweddol. Mae’r gromlech borth felly yn henebion trawiadol iawn i ymweld â hwy ac yn wych i dynnu eu lluniau oherwydd eu siâp a’u maint.
Yng Ngwern Einion, mae’r porth (neu’r fynedfa) yn uchel iawn a gellir gweld gweddillion y 5 carreg fawr a’r capfaen enfawr. Roedd y siambr unwaith wedi’i hadeiladu i wal corlan y tu ôl i adeiladau fferm o’r 19eg ganrif, gan fod y ffermwr wedi defnyddio’r cerrig oedd yn gyfleus gerllaw. Fodd bynnag, mae’r wal hon wedi’i chlirio yn ddiweddar gan archeolegwyr er mwyn gallu gwerthfawrogi ysblander yr heneb yn llawn.
Mae nifer o siambrau claddu Neolithig diddorol eraill yn yr ardal hon gan gynnwys Cors y Gedol a Dyffryn Ardudwy.
Isffordd o Llanbedr neu Pen Sarn – map yn angenrheidiol
Gorsaf Llandanwg
Safle bws ger Gorsaf Llandanwg
Ger llwybr beicio NCN 8
Map OS yn angenrheidiol - croesi'r caeau a thrwy giât mochyn o'r isffordd
Ar dir preifat - caniata ein angen gan Gwern Einion. Dim yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 587286 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124